S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

  • Amanda Rees
  • Amanda Rees

    Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys

    Dechreuodd Amanda Rees ei gyrfa gyda chwmni Opus gan weithio ar y cyd-gynhyrchiad rhyngwladol 'Y Babaeth'. Yna, tra bu'n gweithio gyda chwmni Green Bay Media, fe gynhyrchodd nifer o gyd-gynyrchiadau rhyngwladol megis 'Afonydd', 'Ynysoedd', 'Yr Anialwch' a dwy raglen i National Geographic; 'Saving Egypt's Oldest Pyramid' a 'London's Olympic Stadium'.

    Ar ôl ffurfio ei chwmni ei hun - TiFiNi - yn 2012, ei gwaith cyntaf oedd cyd-gynhyrchiad i S4C, ITV Cymru a Foxtel Australia, sef 'Trysor Coll y Royal Charter'. Fe gafodd ei chynhyrchiad nesaf, 'Finding Mum and Dad' i Channel 4, ganmoliaeth fawr gan gynnwys enwebiadau am wobrau Grierson a Broadcast yn 2014.

    Yn 2016 fe gynhyrchodd y rhaglen 'Revenge Porn' i Channel 4 a 'City Road', am fywyd ar un o brif strydoedd Caerdydd, ar BBC1 Wales.

    Mae hi'n arbenigo mewn cyd-gynhyrchu cyfresi a ffilmiau unigol i ddarlledwyr byd-eang gan gynnwys S4C, Channel 4, BBC, ITV Cymru, Channel 5, National Geographic, France Televisions, UKTV, A&E, RTE, Discovery a Foxtel Awstralia.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?