S4C
Dewisiadau

Cynnwys

  • Taliadau y Pasg 2024

    Taliadau y Pasg 2024

    Nodyn i'ch hysbysu bydd y taliadau olaf cyn Gŵyl Banc y Pasg yn cael eu gwneud ar Ddydd Llun 25ain o Fawrth 2024.

    I sicrhau bydd eich anfonebau yn cael ei gynnwys mi fydd angen i'ch anfonebau cyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 11 y bore ar Ddydd Gwener 22ain o Fawrth 2024.

    Fydd taliadau yn cael ei wneud ar ôl Pasg ar Ddydd Mawrth 2il o Ebrill 2024.

    Diolch am eich cydweithrediad.

  • Y Gronfa Twf Masnachol

    Y Gronfa Twf Masnachol

    Cronfa fuddsoddi newydd yw Cronfa Twf Masnachol S4C sy'n cael ei sefydlu o fewn Braich Cyfryngau Digidol S4C. Bydd y Gronfa yn buddsoddi mewn busnesau sy'n cyd-fynd yn agos â nodau strategol hirdymor S4C ac sy'n gallu dangos y cyfle a'r potensial ar gyfer twf. Bydd y gronfa'n gweithredu fel catalydd ar gyfer y twf hwnnw ac yn chwarae rhan amlwg wrth harneisio potensial sylweddol y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

  • Y Gronfa Cynnwys Masnachol

    Y Gronfa Cynnwys Masnachol

    Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru. Mae straeon lleol gwych, wedi'u hadrodd yn dda, yn mynd y tu hwnt i dir ac iaith er mwyn i gynulleidfaoedd byd-eang eu mwynhau.

    O lwyddiant Y Ferch Dawel yn y Wyddeleg i Dal Y Mellt gan S4C ar Netflix, mae'r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cynnwys gwreiddiol nad yw yn Saesneg.

    Crëwyd y Gronfa Cynnwys Masnachol gan S4C Rhyngwladol i lwyr wireddu cyfleoedd masnachol newydd i gynnwys a chynhyrchwyr gwych S4C – yn rhyngwladol ac ar lwyfannau gwahanol.

    Pa bynnag faes creadigol rydych chi'n rhan ohono, hoffem glywed gennych chi i weld a allwn ni helpu i ddod o hyd i farchnad i'ch syniad.

  • Gwybodaeth Pwysig - Newidiadau a Diweddariadau i system cyfleu gwaith papur cynnwys ar-lein S4C (PAC)

    O fewn yr wythnosau nesaf, rydym yn gobeithio cyflwyno diweddariadau i system ar-lein PAC S4C - pac.s4c.cymru

    Bydd y rhain yn cynnwys sawl gwelliant i brofiad y defnyddiwr a gwelliannau i'w ymarferoldeb - i gyd yn seiliedig ar adborth diweddar gan ddefnyddwyr.

    Rydym hefyd wedi gwella'r ffordd y caiff gwybodaeth ei storio a'i chadw ar ein gweinyddwyr i wella cyflymder a diogelwch.

    Oherwydd y gwelliannau angenrheidiol hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn newid eich cyfrinair ar gyfer PAC i gynnwys hyd at 6 nod, (o leiaf un llythyren achos uchaf, un llythyren achos is, un digid ac un symbol arbennig na all fod yn ddyfyniad sengl neu ddwbl) - a sicrhau bod cyfeiriad e-bost cywir i'r defnyddiwr er mwyn osgoi cael eich cloi allan wrth i ni ddechrau'r ymfudo i'r fersiwn diweddaraf.

    Bydd cwmnïau gyda gweithwyr llawrydd sy'n defnyddio PAC hefyd angen newid eu cyfrinair.

    Mwy o fanylion a dyddiad lansio i ddilyn.

    Unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: mb@s4c.cymru

  • Rhif EPG S4C ar Virgin Media yn newid

    Bydd rhif EPG S4C ar Virgin Media tu allan i Gymru yn newid o 166 i 164 ar 4 Gorffennaf 2023. Bydd S4C yn parhau ar 104 yng Nghymru.

    Gofynnwn i unrhyw gynhyrchwyr sy'n hyrwyddo rhifau sianel S4C mewn rhaglenni, er enghraifft rhaglenni chwaraeon, i adlewyrchu'r rhif newydd o 4 Gorffennaf ymlaen.

    Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.

  • S4C yn arwyddo’r ‘Coalition for Change’

    Mae S4C wedi ymuno â darlledwyr a chyrff eraill yn y diwydiant teledu i gefnogi'r Coalition for Change a'r Siarter Rhyddgyfranwyr, sy'n ymrwymo i wellla amodau gwaith rhyddgyfranwyr. Mae TAC eisoes wedi ymrwymo i'r Siarter ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda TAC a'n cynhyrchwyr i wireddu'r ymrwymiadau.

    Gellir darllen y datganiad llawn a'r Siarter Rhyddgyfranwyr yma.

  • Canllawiau Castio S4C

    Rydym wedi bod yn adolygu Canllawiau Castio S4C yn ddiweddar mewn trafodaeth ag Equity. Lluniwyd y canllawiau i osgoi cael actorion yn ymddangos mewn rôl amlwg mewn mwy nag un gyfres ddrama oedd yn cael eu darlledu ar yr un pryd. Rydym wedi dod i'r casgliad nad oes angen y canllawiau mwyach, o ystyried arferion gwylwyr, ein strategaeth aml-blatfform (gan gynnwys bocs sets), y ffenest ar-alw o 150 diwrnod a'r newidiadau i batrymau ffilmio ein cyfresi sebon. Byddwn yn dileu'r Canllawiau Castio o Hafan Gynhyrchu S4C, ond bydd dal angen trafod a chytuno ar brif aelodau cast drama gyda Chomisiynydd S4C.

  • Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol

    Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol

    Mae S4C, TAC, Equity a nifer o ddarlledwyr a chyrff eraill yn y diwydiant wedi cefnogi Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol mewn teledu.

  • Dyddiadau Cyfleu

    10 Awst 2022

    Gair i'ch atgoffa bod dyddiadau cyfleu ar gyfer rhaglenni i S4C wedi eu nodi yn y drwydded ar gyfer y rhaglen neu gyfres.

  • Cymryd rhan

    Cymryd rhan

    Gan nad yw'n bosib cynnig amser awyr i ddenu cyfranwyr i bob cynhyrchiad, mae tudalen Cymryd Rhan (s4c.cymru/cymrydrhan) yn bodoli ar ein gwefan i gynnwys cyfleoedd i bobl serennu ar y gwasanaeth.

    Mae modd pwyntio at y tudalen trwy e-byst, wasg a chyfryngau cymdeithasol.

    Mae croeso i gwmnïau cynhyrchu llenwi cais hyrwyddo ar gyfer y tudalen.

  • Chwilio am gyfleoedd castio?

    Am gymryd rhan neu serennu yng nghynnwys newydd S4C?

    • Cylchythyr Cynhyrchu

      Tanysgrifio i'r Cylchythyr Cynhyrchu.

    • Cyfleu Darllediadau Gwleidyddol, Etholiadau ac Ymgyrchoedd Refferendwm

      Cyfleu Darllediadau Gwleidyddol, Etholiadau ac Ymgyrchoedd Refferendwm

      Diweddariad

      Mae'r ddogfen yma wedi cael ei ddiweddaru. Gweler gopi o'r ddogfen ddiwygiedig yma yn ogystal ag ar dudalen y canllawiau at y safle yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?