S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Trwyddedu Hawliau Deunydd Crai

22-Mai-2015

Ers 1998 mae S4C wedi cynnal adnoddau storio ar gyfer tapiau o ddeunydd crai (h.y. y deunydd a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith o gynhyrchu rhaglenni ond na chafodd eu cynnwys yn y rhaglenni gorffenedig) yn ei phrif ganolfan yng Nghaerdydd ac hefyd yn Uned 2, Cibyn, Caernarfon (ar safle Clip Cymru Cyf gynt). Mae'r cwmniau sy'n gysylltiedig â'r deunydd crai wedi eu rhestru isod.

Cynhyrchwyd y rhaglenni hyn ar sail aseiniadau llawn o'r hawliau i S4C, ac felly S4C sy'n berchen ar y deunydd crai cysylltiedig.

Nid oes modd i S4C barhau i storio'r tapiau crai hyn i'r dyfodol ac mae'n bwriadu gwaredu ar yr holl dapiau ag eithrio'r rheini sydd o werth archifol arbennig sydd wedi eu hadnabod yn unol â chanllawiau'r Polisi Dethol ac Archifo (1998).

Cyn eu gwaredu, bydd S4C yn cynnig y cyfle i gynhyrchwyr gwreiddiol y rhaglenni (neu olynydd i'r fath gwmni cynhyrchu fel sy'n briodol) hawlio'r tapiau crai sy'n berthnasol iddyn nhw. Gwneir y cynnig hwn yn amodol ar y telerau canlynol:

Bydd angen i'r cynhyrchydd gasglu'r tapiau o'r deunydd crai.

Bydd hawlfraint yn y deunydd yn parhau i fod yn berchen i S4C ond bydd y cynhyrchydd yn derbyn trwydded an-ecsgliwsif i ddefnyddio'r deunydd crai ym mhob cyfrwng yn fyd-eang am byth.

Bydd y cynhyrchydd yn caniatáu i gynhyrchwyr eraill ddefnyddio clipiau o'r deunydd crai mewn rhaglenni newydd ar gyfer S4C am ddim.

Bydd y cynhyrchydd yn medru codi ffioedd ar drydydd partion sydd am ddefnyddio'r deunydd crai ar yr amod bod y cynhyrchydd yn rhoi i S4C 30% o unrhyw incwm net a gaiff wrth ymelwa ar y deunydd crai.

Mae S4C eisoes wedi adnabod nifer o gynhyrchwyr y tapiau a byddwn yn danfon llythyr at y cynhyrchwyr hynny o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Os na fyddwch yn derbyn llythyr a'ch bod o'r farn bod tapiau o fewn y casgliad yn berthnasol i chi, yna rhowch wybod i S4C.

Rhowch wybod i'ch rheolwr busnes erbyn 30 25 Mehefin 2015 os hoffech wneud cais am dapiau os gwelwch yn dda. Mi fydd S4C yn gwaredu unrhyw ddeunydd na chaiff eu hawlio ond yn parhau i storio'r deunydd sydd o werth archifol arbennig (e.e. deunydd Smotyn Coch) yn ei chanolfan yng Nghaerdydd yn unol â chanllawiau'r Polisi Dethol ac Archifo (1998) gwreiddiol.

Os oes cwestiynnau pellach cysylltwch â Rhys Bevan (rhys.bevan@s4c.cymru)

Cwmniau

7th Art Productions Access Agenda Al Fresco Alfresco Alun Hughes Amgueddfa Cenedlaethol Ankst Ann Fon Antena Antena - Opus Apollo Aptv/S4c Avanti Axys Bandit BBC Boda Bont Bright Thoughts British Lion Films Bryngwyn Burum Cai Cambrensis Cardinal Cenad Central Tv Chrysallis Ci Diog.Cyf. Clive Walley Coleg Harlech Creative Realisation Criw Byw Cwmni Da Cwmni Da/Ffilmiau'r Bont Cyfle Cyngor Arfon Cyngor Sir Gwynedd Cynhyrchiadau Orbi Dime Goch Dime Goch - Opus Dream Makers Dream Team Tv Dyffryn Eifion Williams Elidir Eryri Eurig Wyn Ffenics Ffilmiau Rebeca Ffilmiau Scan Ffilmiau'r Frenni Ffilmiau'r Nant Ffilmiau'r Ynys Fflic Fi Ti Ti Fi Fulmar West Gaucho Geraint Pari Huws Glan Griffilms Gwdihw Hel Straeon Hiraethog Htv Huw Orwig Leo Dickenson Productions Lleu Llifon Llun Y Felin Madfall Map Mercer Mike Mansfield Monitor Morfa Na Nog Nant Opus Pengwyn Pinc Pennawd Plaid Cymru Prospect Prospect Cymru Rebeca Rugby Vision Ltd. Sain Seiont Sianco Solo Tafwys Tele-Cine Ltd Teledu Tir Glas Teledu'r Twr Telegraffiti Telesgop Teliesyn Tempo Tir Glas Tir Glas/Nant Tonfedd Tonfedd Eryri Ty Gwyn Y Wennol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?