S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cefnogi Cynnwys

Fel rhan o newid ehangach o fewn S4C, mae'r adran materion busnes wedi ei hail strwythuro ac mae bellach yn rhan o dîm newydd Cefnogi Cynnwys S4C.

Dyma drosolwg o swyddogaethau'r rheini yn nhîm newydd Cefnogi Cynnwys S4C:

  • Bydd Angharad Thomas yn gyfrifol am reolaeth ariannol y gyllideb cynnwys yn ei chyfanrwydd. Bydd felly'n cydweithio'n agos gydag Amanda Rees a'r Tîm Creadigol (comisiynu) wrth flaengynllunio i'r dyfodol.
  • Mae Iestyn Morris wedi ei benodi'n Bennaeth yr Adran Gyfreithiol a Busnes â throsolwg dros yr adrannau Cyfreithiol a Materion Busnes.
  • Bydd tím newydd materion busnes wedyn yn gyfrifol am drafod agweddau gweithredol, cyllidebol a chyfreithiol cynyrchiadau unwaith bod diddordeb wedi ei fynegi mewn syniad gan y tîm creadigol a'r syniad wedi ei gyflwyno trwy "Cwmwl".
  • Mae Rhys Bevan wedi ei benodi yn Rheolwr Gweithrediadau Cynnwys yn gyfrifol am drafod cyllidebau ac agweddau cynhyrchu gyda chwmniau cynhyrchu yn ôl y gofyn yn ogystal â llywio gwaith y swyddogion materion busnes o gydlynnu'r brîff golygyddol a'r cytundeb. Prif bwynt cyswllt cwmniau cynhyrchu o ddydd i ddydd fydd y swyddogion materion busnes ac mi fyddan nhw'n gweithredu fesul genres (gweler isod). Bydd y tím yn parhau i wirio manylion cyfleu ar y PAC a sicrhau bod yr wybodaeth angenrheidiol wedi ei dderbyn.
  • Bydd y tîm cyfreithiol yng ngofal cytundebau comisiynu anarferol, cytundebau hawliau a materion cydymffurfiaeth.
  • Unwaith y bydd cynhyrchiad wedi ei gytundebu, y Tím Cyllid fydd yn prosesu taliadau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cau yn brydlon. Dylid danfon unrhyw ymholiadau am daliadau at taliadau@s4c.cymru

Dyma'r timau - Cefnogi Cynnwys

Materion BusnesCyfreithiolCyllid
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?