S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Penodi Luned Whelan yn Rheolydd Cyffredinol newydd TAC

6 Mawrth 2017

Mae Luned Whelan wedi dechrau yn ei swydd ar ôl cael ei phenodi i swydd Rheolydd Cyffredinol TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), sy'n cynrychioli sector cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru.

Swyddogaeth Luned fydd cefnogi aelodau TAC o fewn y sector cynhyrchu teledu annibynnol, i warchod buddiannau'r cyfryw gynhyrchwyr ac i gydlynu buddsoddiad y cwmnïau mewn hyfforddiant. Bydd hyn yn golygu cydweithio ag S4C, y BBC, Ofcom, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC, 'Mae Cyngor TAC yn falch iawn o groesawu Luned Whelan i swydd y Rheolydd Cyffredinol. Bu Luned yn gweithio yn S4C am nifer o flynyddoedd tan 2010, a bu'n llaw-rydd ers hynny, ac yn cydweithio â nifer o aelodau'r sector. Mae ganddi brofiad gwerthfawr o elfennau allweddol darlledu cyhoeddus ym meysydd cytundebau, hawliau a chyfathrebu, a phrofiad sgriptio a golygu cynnwys i amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu annibynnol.

'Dros y misoedd nesaf, mi fydd Luned yn brysur yn llunio strategaeth weithredu fydd yn seiliedig ar anghenion y sector gyfan, a sicrhau bod llais yr aelodaeth i'w glywed yn eglur ym mhob trafodaeth o ddatblygiadau hollbwysig y flwyddyn sydd i ddod yn y byd darlledu yng Nghymru.'

Cysylltu

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Iestyn Garlick ar iestyn@antena.co.uk neu Luned Whelan: 029 2245 0226 / l.whelan@tac-cymru.co.uk.

Nodiadau

  1. TAC yw'r corff sy'n cynrychioli sector cynhyrchu cwmnïau teledu annibynnol yng Nghymru. Ceir oddeutu 60 o gwmnïau yn y sector, ac maent yn cynhyrchu cynnwys i rwydweithiau ledled y DU yn ogystal ag S4C a BBC Cymru Wales, ac yn gweithio ym maes cydgynyrchiadau rhyngwladol.
  2. Ceir gwybodaeth bellach ar www.tac-cymru.co.uk
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?