S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

  • Elen Rhys

    Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth

    Cyn gweithio i S4C, roedd Elen yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru Wales. Mae ganddi yrfa o dros ugain mlynedd yn y byd darlledu a phrofiad cynhwysfawr o greu, ysgrifennu, cynhyrchu a goruchwylio cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol ar draws pob llwyfan.

    Mae gan Elen brofiad ym maes adloniant ac yn ddiweddar bu'n gweithio ar nifer o gynyrchiadau cerddoriaeth y BBC, gan gynnwys BBC Young Musician, Choir of the Year, Canwr y Byd Caerdydd, Proms in the Park 2014, Plant Mewn Angen a rhaglenni rhwydwaith uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol ar y BBC.

    Mae Elen hefyd yn llwyddiannus ym maes rhaglenni i blant a phobl ifanc, gan greu a chynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer y rhwydwaith, yn rhyngwladol ac ar gyfer S4C.

    Yn ei rôl fel Comisiynydd Adloniant S4C, mae Elen yn gyfrifol am gynnwys comedi, adloniant ysgafn, adloniant ffeithiol, cerddoriaeth a nifer o ddigwyddiadau'r Sianel.

    Gwe-gyfarfod Elen Rhys: 27 Ebrill 2016

    Cyflwyniad Sector: Adloniant

  • Adloniant ar S4C

    Adloniant ar S4C

  • Cerddoriaeth ar S4C

    Cerddoriaeth ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?