S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

  • Sue Butler

    Comisiynydd Chwaraeon

    Dechreuodd Sue ei gyrfa yn gweithio fel ymchwilydd gyda BBC Wales Sport ac yna i Lundain fel cynhyrchydd gyda BBC Sport a Digwyddiadau. Bu Sue gyda BBC Sport am dros bedair blynedd ar ddeg yn cyhyrchu pob math o rhaglenni gan gynnwys rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr, Cwpan y Byd Pêl Droed, Wimbledon, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, y Grand National, Pencampwriaeth Athletau Ewrop a'r Byd, y Gemau Olympaidd dair gwaith a Gemau'r Gymanwlad ddwy waith. Llwyddodd i gyrraedd y rhestr fer dair gwaith am wobr RTS Sport ac enillodd y gwobrau IOC Golden rings a'r Golden Podium Award am ei gwaith yn ystod Gemau Olympaidd Barcelona a Sydney.

    Ar ôl gadael y BBC i fagu tri o blant, dechreuodd Sue weithio yn llawrydd ar raglenni BBC Sport a Channel 4. Bu'n gweithio fel cynhyrchydd i gwmnïau cynhyrchu annibynnol chwaraeon gan gynnwys Sunset and Vine, IMG ac yn rhan o'r tîm darlledu ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 a Gemau'r Gymanwlad yn 2014.

    Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae hi erbyn hyn yn byw ger y Fenni.

    Gwe-gyfarfod Sue Butler: 13 Ebrill 2016

    Cyflwyniad Sector: Chwaraeon

  • Chwaraeon ar S4C

    Chwaraeon ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?