Mae S4C wedi cyhoeddi Polisi Amddiffyn Plant S4C sydd wedi'i ddiweddaru.
Mae'r polisi diwygiedig yn darparu: -
- gwybodaeth am ofynion trwyddedu perfformiad plant gyda chysylltiadau â chanllawiau defnyddiol
- ffurflen Hunan-ddatgan Grwpiau Diogelu Plant a Grwpiau Agored i Niwed y mae'n rhaid i unigolion eu llofnodi os byddant yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus
- bod yn rhaid i blant dan 13 oed gael caniatâd dilys rhiant neu oedolyn cyfrifol i dderbyn gwobr mewn cystadleuaeth a chrybwyll eu henw fel enillydd gwobr mewn rhaglen, ar wefan neu mewn man arall. Yr oedran flaenorol oedd 12.
- geiriad ychwanegol ynglŷn â chaniatâd rhieni pan fydd plant yn cymryd rhan mewn rhaglenni