S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Canllawiau Mewnol S4C ar Ddefnydd o Regfeydd ac Ystumiau Tramgwyddus Mewn Darllediadau Teledu ac Ar-Lein

Mae cyfrifoldeb ar S4C i amddiffyn aelodau o'r cyhoedd yn ddigonol rhag cynnwys deunydd niweidiol neu dramgwyddus o fewn ei gwasanaethau teledu. Mae gofyn ar S4C hefyd i sicrhau bod unrhyw ddeunydd o fewn rhaglen a allai achosi tramgwydd, gan gynnwys unrhyw regfeydd, geiriau neu ystumiau, wedi eu cyfiawnhau gan y cyd-destun.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad yn crynhoi agweddau cyfredol y cyhoedd i iaith dramgwyddus (https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/latest/media/...). Er mwyn ymateb i geisiadau am arweiniad gan ein cynhyrchwyr, mae S4C wedi datblygu canllawiau ar ddefnydd o eirfa Cymraeg dramgwyddus er mwyn adlewyrchu'r canfyddiadau yn adroddiad Ofcom gan gymryd i ystyriaeth yr iaith Gymraeg.

Mae'r canllaw sydd ar wefan gynhyrchu S4C yn nodi rhestr o eiriau ac ystumiau sydd o bosib yn sarhaus ac y dylid eu hystyried yn ofalus cyn eu cynnwys mewn unrhyw raglen. Rhaid cofio bod y cyd-destun yn holl-bwysig wrth ddod i benderfyniad ar dderbynioldeb iaith, ac mae'r ddogfen yn nodi'r ffactorau cyd-destun y dylid eu hystyried.

Lle bo'r cyd-destun yn mynnu cyfiawnhad arbennig i gynnwys unrhyw air neu ystum penodol, dylid trafod gyda'r Comisiynydd perthnasol o flaen llaw, a dylid ceisio am gymeradwyaeth S4C cyn darlledu'r iaith gryfaf ar bob achlysur.

Canllawiau Rhegfeydd S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?