S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Digwyddiad RTS - Ymateb S4C i'r Adolygiad

Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad RTS Cymru - a gefnogir gan S4C - nos Iau 19 Ebrill 2018. Bydd derbyniad am 18.15, gyda'r noson i ddechrau am 19.00.

Bydd yn gyfle i chi glywed ymateb gan y Sianel i adolygiad Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o S4C, gyhoeddwyd ddiwedd Mawrth. Gellir darllen yr adolygiad, ysgrifennwyd gan Euryn Ogwen Williams yma.

Bydd cyflwyniad agoriadol gan Gadeirydd S4C, Huw Jones ac yna trafodaeth dan arweiniad yr Athro Ruth McElroy, gyda Chadeirydd S4C, Prif Weithredwr S4C, Owen Evans ac Euryn Ogwen Williams.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu gyda Glesni Haf Parry.

Mae modd i chi gadarnhau eich presenoldeb yn y digwyddiad yma: https://www.eventbrite.com/e/dyfodol-s4c-the-future-of-s4c-tickets-44882269075

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?