S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

S4C Clic

Ers mis Mai 2015, rydym wedi bod yn cyfeirio at ein gwasanaeth gwylio ar-lein drwy annog pobl i "wylio ar-lein, ar alw ar s4c.cymru". Roedd hyn am nad oedd enw penodol ar gyfer y gwasanaeth.

Y mis yma, Gorffennaf 2018, mae'r enw S4C Clic wedi dychwelyd gyda logo newydd a diweddariad i'r wefan a'r ap.

O hyn ymlaen, dylid defnyddio'r enw S4C Clic (ee. "gwyliwch eto ar S4C Clic"); ac os gwelwch yn dda, cofiwch ddefnyddio S4C Clic bob tro – byth 'Clic' ar ben ei hun.

Os oes gennych chi gwestiynau am y newid yma, cysylltwch ag Adran Gyfathrebu S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?