S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Canllawiau Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol

Mae S4C yn paratoi Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol ar hyn o bryd mewn perthynas â'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â Rhaglenni S4C a gobeithir eu rhyddhau i'r sector gynhyrchu yn y dyfodol agos.

Yn y cyfamser, fe all fod o help i'r Cwmnïau Cynhyrchu i gadw'r wybodaeth isod mewn cof wrth ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â Rhaglenni S4C:

  1. Wrth gyhoeddi unrhyw ddeunydd ar blatfform cyfrwng cymdeithasol, er enghraifft delweddau, clipiau, fideos, sicrhewch fod y deunydd dan sylw wedi ei glirio ar gyfer y defnydd yma a bod gennych yr holl hawliau, drwyddedau a/neu caniatâd angenrheidiol ar gyfer defnydd o'r fath. Tynnir sylw yn arbennig i ddeunydd trydydd parti a cherddoriaeth a chynhwysir mewn deunydd o'r fath;
  2. Noder fod gan nifer o gyfryngau cymdeithasol gyfyngiad oedran o 13 +. Fel y cyfryw mae S4C yn annog Cwmnïau Cynhyrchu i ystyried addasrwydd cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â Rhaglen S4C, yn enwedig lle mae'r gynulleidfa targed ar gyfer y Rhaglen honno yn iau na'r cyfyngiad oedran ar gyfer y platfform cyfrwng cymdeithasol dan sylw.
  3. Rhaid trafod defnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â Rhaglen S4C gyda, a derbyn cymeradwyaeth i'w ddefnyddio o flaen llaw gan Gomisiynydd Rhaglen S4C a Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol ac OPCh S4C;
  4. Dylai pob defnydd o gyfyngau cymdeithasol mewn perthynas â Rhaglen S4C gael ei wneud yn unol â'r ddogfen "Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol: Awgrymiadau Ymarfer Da ar gyfer Cwmnïau Cynhyrchu sy'n Gweithio i S4C" sydd ar gael ar Wefan Gynhyrchu S4C.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?