S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Galwad Ar Gyfer Cyfres Hanes – Dyddiad Cau

Yn dilyn cryn ddiddordeb i gais y Comisiynydd Ffeithiol am gyfres hanes 4 x 60 yn y cyfarfod sector diwethaf, rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau. Rydym yn chwilio am gyfres uchelgeisiol a beiddgar fydd yn defnyddio'r iaith Gymraeg fel cerbyd i adrodd hanes Cymru ac i ddeall mwy am ein gwlad a dyfodol yr iaith.

  • Wrth gyflwyno eich syniadau dylid cynnwys yr wybodaeth isod:
  • Pitch dim mwy nag un tudalen yn amlinellu cysyniad y gyfres yn glir.
  1. Dogfen atodol, dim mwy na dwy/tair tudalen yn nodi:
  2. Naratif a steil y gyfres
  3. Y dulliau a'r technegau a ddefnyddir i adrodd yr hanes
  4. Y cyflwynwyr a'r cyfrannwyr fydd yn ysbrydoli a herio
  5. Y Talent cynhyrchu
  6. Unrhyw gynnwys/ymgyrchoedd atodol all arwain at sgwrs genedlaethol

Anfonwch eich syniadau at y Comisiynydd Cynnwys, llinos.wynne@s4c.cymru erbyn 17.00 dydd Gwener Chwefror 8fed,2019. Wedi'r dyddiad cau bydd S4C yn ystyried yr holl syniadau a byddwn yn cysylltu â'r cwmnïau i'w hysbysu fod gennym ddiddordeb i drafod y syniadau ymhellach o fewn pythefnos.

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?