S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc

Ar Ebrill 1af 2019 sefydlwyd Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc (Young Audiences' Content Fund). Mae'r gronfa o £57m yn benodol ar gyfer cynnwys i blant a phobol ifanc ar sianeli darlledwyr cyhoeddus dros gyfnod o dair blynedd. Mae 5% o'r gyllideb wedi ei glustnodi ar gyfer cynnwys yn yr ieithoedd Celtaidd.

Mae rhagor o wybodaeth am amcanion a chanllawiau'r gronfa yma:

https://www.bfi.org.uk/supporting-uk-film/production-development-funding/young-audiences-content-fund

Hoffwn eich gwahodd i S4C Yr Egin ar 20 Mai 2019 er mwyn cwrdd a Jackie Edwards, pennaeth y gronfa. Bydd Jackie yn cyflwyno'r gronfa i'r cwmniau cynhyrchu yma yng Nghymru ac yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb.

Bydd yn gyfle i gynhyrchwyr glywed beth yw gweledigaeth Jackie ar gyfer y gronfa a sut y gallwch chi fanteisio ar y gronfa er mwyn datblygu a chynhyrchu cynnwys cyfrwng Cymraeg i blant a phobol ifanc.

Bydd y sesiwn yn Y Stiwdio Fach yng Nghanolfan S4C Yr Egin am 1030 o'r gloch. Darperir lluniaeth ysgafn amser cinio.

Mae croeso i bob cwmni cynhyrchu ymuno yn y sgwrs. Edrych ymlaen i'ch gweld chi!

E-bostiwch bethan.jenkins@s4c.cymru i gadw eich lle

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?