S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Galw am syniadau am gynnwys cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymraeg

6 x 30' + 1 x 60' (ail-olygu uchafbwyntiau ar ddiwedd blwyddyn)

Cyllid: £150,000

Llwyfannau: Teledu, Clic a Chyfryngau Cymdeithasol

  • Cynnwys fydd yn treiddio i gerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes yng Nghymru heddiw.
  • Bydd pob pennod yn cylchdroi o amgylch gŵyl neu ddigwyddiad cerddorol / ardal ddaearyddol / thema benodol gan blethu cerddoriaeth fyw, perfformiadau celfyddydol, a chynnwys am y diwylliant cyfoes sy'n cylchdroi cerddoriaeth.
  • Bydd yn gwneud defnydd creadigol o dechnegau fideo hollol gyfoes mewn arddull weledol gyffrous, uniongyrchol ac amrywiol.
  • Bydd pob darn o'r cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan ystyried pecynnu fel cynnwys byr ar gyfer gwylio arlein.
  • Recordiadau o berfformiadau byw fydd calon y cynnwys ond bydd ffocws hefyd yn troi at elfennau o ddiwylliant poblogaidd sydd yn rhan annatod o sîn gerddoriaeth: celf, geiriau, dylunio, ffasiwn, ffilm, ffotograffiaeth, ayb gan roi segues syfrdanol, ffraeth a dadlennol rhwng y caneuon.
  • Dylai deimlo fel taith weledol mewn i ddiwylliant byw, cyfoes, Cymru.
  • Nid cynnwys cylchgrawn gyda chyflwynydd fydd y rhain ond modd i blymio mewn i sîn fyw, y diwylliant a'r cymeriadau sy'n ei chreu, gan fyth orfod esbonio'i hun yn ormodol gyda throslais.
  • Dylai gael ei wneud gydag awdurdod, parch at yr hyn mae'n golygu yn ddiwylliannol i Gymru, yn ansinigaidd ei driniaeth tra'n cadw'n ffraeth ac egnïol.
  • Bydd yn driniaeth hollol wahanol i raglenni cerddoriaeth a diwylliant sydd wedi bod eisoes ar S4C. Rydym yn edrych am rywbeth sydd am osod ei hun ar wahân i'r hyn a fu.
  • Bydd y cynnwys yn dod o dan frand newydd traws blatfform fydd yn disodli brand Ochr 1 – rydym yn agored i dderbyn syniadau am enwau newydd ar gyfer y brand, ond bydd hwn yn ddewis i S4C yn y pen draw gan y bydd hefyd yn cael ei weithredu ar draws cynnwys arall cerddoriaeth newydd S4C.
  • Nid dim ond rhaglen i bobl ifanc fydd hon ond rhaglen am gerddoriaeth a diwylliant a arweinir gan bobol ifanc yn bennaf, a fydd yn apelio i gynulleidfa ehangach sydd yn ddilynwyr cerddoriaeth a chelf newydd.
  • Noder: ni fydd digwyddiadau cerddorol yr Eisteddfod Genedlaethol na Gwobrau'r Selar yn rhan o'r briff yma.

Bydd angen gallu cyhoeddi'r cynnwys cyntaf tuag at diwedd Haf 2019 (yn amodol ar gytundeb).

Sut i gyflwyno syniad?

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniadau drwy ebost (ymlyniad hyd at 6mb) at cerddoriaeth@s4c.cymru erbyn 6yh Dydd Iau Mehefin 6ed, 2019. - Sylwer dyddiad cau newydd os gwelwch yn dda.

Rydym yn croesawu PDF neu dogfen WORD hyd at 6 tudalen A4.

Os oes defnydd gweledol gosodwch y dolenni i wylio o fewn y ddogfen.

Os oes cwestiwn penodol dylid anfon at cerddoriaeth@s4c.cymru cyn Mai 17, 2019.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?