S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Gwahoddiad i dendro ar gyfer rheoli prosiect ymgyrch digwyddiadau

Cyhoeddwyd: Dydd Gwener, 16 Mai 2014

Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau: 12.00 canol dydd, Dydd Gwener 23 Mai 2014

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun 2 Mehefin 2014

Y cwmni llwyddiannus yw Cazbah Ltd

Mwy o wybodaeth (PDF)

Cwestiwn 1:

Os gwelwch yn dda fyddai modd i chi gadarnhau mai'r gyllideb gyflawn ar gyfer yr holl weithgaredd yw £130k?

Ateb 1:

Dyma'r ffi lawn a'r mwyafswm sydd ar gael petai angen gwarantu cyfarpar a digwyddiadau.

Cwestiwn 2:

Os gwelwch yn dda fyddai modd i chi gadarnhau os yw'r cyfanswm yma ar gyfer gweithredu yn unig neu ydy'r cyfanswm yn cynnwys ffioedd asiantaeth?

Ateb 2:

Byddai'r ffi yn cynnwys yr holl gostau.

Cwestiwn 3:

Ydi'r gyllideb i fod i dalu am gostau archebu lle ar gyfer yr holl leoliadau (oes gennych chi unrhyw berthnasau fyddai'n golygu bod modd cael lleoliadau am ddim?)?

Ateb 3:

Ydi, yr holl gostau. Na fydd dim lleoliadau ar gael am ddim.

Cwestiwn 4:

Rydych yn gofyn am 12 ddigwyddiad mawr a 30 digwyddiad llai… rydym ni'n meddwl y bydd hyn yn anodd o fewn y gyllideb. Faint o hyblygrwydd sydd ar gyfer y nifer o ddigwyddiadau a gynhelir o fewn y gyllideb os gwelwch yn dda?

Ateb 4:

Gallai'r digwyddiadau llai sydd wedi eu nodi fod yn ymweliadau â chymunedau ac felly ni fyddai costau uchel. Mae ychydig o hyblygrwydd ond rydym yn dymuno ymweld â chymaint o leoliadau â phosib.

Cwestiwn 5:

Oes gofyn i'r gyllideb dalu am gostau cyfochrog (e.e taflenni) neu nwyddau am ddim?

Ateb 5:

Byddai'r llyfryn ar wahân ond byddai angen cynnwys popeth arall o fewn y gyllideb.

Cwestiwn 6:

Oes gofyn i'r gyllideb dalu am ymddangosiadau gan enwogion?

Ateb 6:

Oes

Cwestiwn 7:

Oes ganddoch chi unrhyw wybodaeth neu luniau, pecyn gwybodaeth neu gyfarpar ar gael yn barod?

Ateb 7:

Na, does dim cyfarfar ar gael gan fod hwn yn brosiect newydd.

Cwestiwn 8:

Fydd S4C yn darparu staff i weithio yn y digwyddiadau?

Ateb 8:

Na

Cwestiwn 9:

Oes rhaid i'r holl staff fod yn ddwyieithog?

Ateb 9:

Oes

Cwestiwn 10:

Oes rhaid i'r tîm sy'n rheoli'r cyfrif fod yn ddwyieithog?

Ateb 10:

Na, ond byddai'n rhai i'r rheolwr ar leoliad fod yn ddwyieithog.

Cwestiwn 11:

Fyddai modd i chi gadarnhau faint o asiantaethau eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhoi cynnig am y tendr hwn?

Ateb 11:

Na.

Cwestiwn 12:

Ydych chi'n arfer defnyddio asiantaeth benodol ar gyfer digwyddiadau o'r math hyn? Ac os felly, ydyn nhw wedi dangos diddordeb mewn rhoi cynnig am y tendr eto?

Ateb 12:

Na, mae hwn yn brosiect newydd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?