S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cyfleu tapiau a gwaith papur ac iawndal penodedig

Yn gyffredinol ar hyn o bryd mae'r drefn yn caniatáu codi ffi os yw deunydd cyfleu yn hwyr neu'n wallus yn seiliedig ar swm o £100 y dydd yn achos tapiau a £50 y dydd ar gyfer gwaith papur.

Er mwyn symleiddio'r drefn a rhoi gwell arweiniad o'r symiau a allai fod yn ddyledus mi fydd S4C ym mabwysiadau'r canllawiau canlynol o'r 4ydd o Ebrill 2016 os oes angen dychwelyd tapiau neu os yw'r gwaith papur yn hwyr.

Fe'ch atgoffir o'r angen i gyfeirio pob cais i newid dyddiad cyfleu rhaglen at Rachel Evans yn yr adran gynllunio trwy e-bost (rachel.evans@s4c.cymru <mailto:rachel.evans@s4c.cymru>) gan gopïo eich comisiynydd perthnasol. Bydd Rachel neu aelod o'r tîm wedyn yn ymateb ar e-bost a chadarnhau a fydd y newid yn bosib ai peidio. Bydd hyn yn sicrhau bod y cwmni cynhyrchu ac S4C yn glir pryd bydd disgwyl i'r tâp gael ei gyfleu i S4C.

Byddwn yn monitro'r sefyllfa ac yn ail edrych ar y drefn o godi ffi dyddiol am gyfleu tapiau neu ffeiliau'n hwyr yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn y cyfamser byddwn yn parhau i gadw'r hawl i ddidynnu iawndal ariannol penodedig o £100 y diwrnod o ran y Copi Darlledu.

Dychwelyd Tapiau

Yn hytrach na swm dyddiol os bydd S4C yn gorfod gyrru tapiau yn ôl at y cynhyrchydd bydd y swm yn ddibynnol ar union natur y gwaith ychwanegol fydd angen i S4C ei wneud. Mae'r tabl isod yn nodi'r ffioedd fydd yn cael eu codi.

Gwaith papur

Ar hyn o bryd mae S4C yn nodi y gellir codi hyd at £50 y dydd am bob diwrnod y mae'r wybodaeth am y rhaglen(ni) yn hwyr. O hyn ymlaen, lle bo elfen o'r gwaith papur angenrheidiol heb ei gyfleu i S4C o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad cyfleu yn y cytundeb, bydd gan S4C yr hawl i gymryd pob cam rhesymol er mwyn sicrhau derbyn y gwaith papur priodol ar gost y cwmni. Fe fydd gan S4C yr hawl i naill ai ddidynnu'r costau rhesymol yma oddi ar unrhyw arian sy'n daladwy i'r cwmni neu ddanfon anfoneb i'r cwmni am y costau. Yr uchafswm y bydd S4C yn codi bydd £500 am bob rhaglen/bennod slot 30 munud (pro rata) lle nad yw'r wybodaeth angenrheidiol wedi ei gyfleu.

Canllaw Gofynion Cyfleu

Mae'r canllaw sy'n rhoi'r cefndir i'r angen am gyfleu yn brydlon ynghyd â nodiadau esboniadol i'r hyn sydd yn ofynnol yn y cytundeb wedi ei ddiweddaru. Mae copi i'w ganfod ar y wefan cynhyrchu.

http://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/page/1154/canllawiau/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?