S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ap Byd Cyw

Croeso i Ap Byd Cyw, Ap llawn hwyl i blant.

Mae Ap Byd Cyw yn gyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd.

Mae'r Ap yn cynnwys gemau, cerddoriaeth a chymeriadau byd Cyw i gadw cwmni i'ch plentyn a'u tywys ar antur. Gwrandwch hefyd ar stori fin nos o fewn yr Ap, bydd straeon newydd yn cael eu hychwanegu yn dymhorol.

Diogelwch

Mae'r Ap yn lle diogel ac yn gorlan i'ch plant grwydro a darganfod. Bydd unrhyw luniau a data yn aros yn yr Ap. Nid oes modd cael mynediad i'r we o ardaloedd chwarae'r Ap.

​Sut i ddefnyddio'r Ap

Proffil

Rhaid creu proffil er mwyn defnyddio'r Ap, (i fyny at 4 proffil i gyd) Bydd pob proffil yn unigryw i'r plentyn ac yn cofio gêm eich plentyn a'r hyn sydd wedi ei gyflawni. Tynnwch lun ac enwch y proffil.

Tapiwch yr eicon gosodiadau i newid y defnyddiwr, newid lefel sain a mynd i'r adran oedolion

I weld gwybodaeth i oedolion yn yr Ap, tapiwch yr eicon gosodiadau, ac yna eicon oedolion. Bydd angen i chi deipio'r rhif, mae hyn yn golygu mai dim ond oedolion sydd â mynediad i'r adran hon.

Mae'r Adran oedolion yn llawn gwybodaeth ac ystadegau am ddefnydd eich plentyn o'r Ap

Adrannau

Gardd Cyw

Dyma'r adran gyntaf i chi weld wrth agor yr Ap. Mae Cyw yn gofalu am yr ardd ac angen help eich plentyn i hau hadau, dyfrio a gofalu am y planhigion.

Gall eich plentyn ennill rhagor o hadau wrth chwarae gemau a chrwydro'r Ap.

Gêm y Fferm: Helpwch Cyw i dorri'r gwair cyn iddi nosi drwy arwain y tractor o gwmpas y cae. Gyrrwch y tractor trwy gyffwrdd, symud a throi'r ddyfais.

Picnic Bolgi

Hoff beth Bolgi yw bwyta, ac mae ei flanced bicnic yn barod am wledd! Gallwch ddewis cerddoriaeth wrth iddo fwynhau'r heulwen, a helpu Bolgi i fwyta'r bwyd! Llusgwch yr eiconau cerddoriaeth i'r radio er mwyn clywed y caneuon

Llew

Dyma adran Llew, mae wrth ei fodd â'i fwng! Gallwch arddangos blodau o ardd Cyw yma drwy eu llusgo i'r pot.

Jangl

Mae Jangl yn dwlu ar ei sied, gallwch ennill patrymau a dodrefn newydd iddi wrth chwarae'r ap. Beth am roi cynnig ar ei char rasio neu neidio ar ei cherrig cyfri?

Nos ym Myd Cyw

Mae'r modd nos yn troi radio Bolgi yn lyfrgell o straeon unigryw i'r ap, ac yn rhoi awyrgylch tawel ac ymlaciol i'r plentyn wrth baratoi ar gyfer cysgu. Tapiwch a dal y symbol dydd/nos i alluogi'r modd hwn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?