S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Deunydd pen-blwydd Cyw i athrawon

Parti Pen-blwydd Cyw yn 10 oed

Roedd mis Gorffennaf eleni yn cofnodi carreg filltir arbennig - pen-blwydd Cyw yn 10 oed.

Mae Cyw wedi gweithio gyda Chanolfan Peniarth i greu Cynllun Gwaith bydd yn cynorthwyo athrawon i ddathlu pen-blwydd Cyw. Mae'r cynllun yn cynnwys gwledd o syniadau a'r cyfan wedi ei glymu yn briodol i'r Proffil Cyfnod Sylfaen er mwyn i ddisgyblion chwarae, chwerthin a dysgu.

I gyd-fynd â'r cynllun mae nifer o daflenni gweithgareddau PDF. Mae cymysgedd o weithgareddau y gellid eu gwneud tu allan a thu mewn i'r ystafell ddosbarth.

Cofiwch drydar llun o'ch dathliadau gan ddefnyddio #Cyw10 a @criwcyw. Gobeithio y bydd yn ddiwrnod i'w gofio i Cyw a'i holl ffrindiau!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?