225g o siwgr mân
225g o fenyn pobi meddal, ac ychydig yn ychwanegol i iro'r tuniau
4 ŵy
225g o flawd codi
1 llwy de o rin fanila (extract) os y dymunwch
Cynhwysion y llenwad hufen menyn
225g o siwgr eisin
112g o fenyn
½ llwy de o rin fanila (extract) os y dymunwch
4 llwy fwrdd o jam mefus neu jam mafon coch
1 llwy de o rin fanila os y dymunwch
Dull
1. Trowch y popty 'mlaen i 180C/Nwy 4.
2. Irwch a gosodwch bapur gwrthsaim mewn dau dun cacen 20cm/8 modfedd.
3. Mewn powlen gymysgu fawr, ychwanegwch y siwgr, menyn a'r fanila (os yn ei ddefnyddio). Cymysgwch gyda chymysgydd llaw trydan (gallwch hefyd ddefnyddio llwy bren) nes bod y cymysgedd yn troi'n lliw golau ac yn ysgafn mewn gwead.
4. Torrwch y wyau mewn powlen ar wahân. Ychwanegwch a chymysgwch un ŵy ar y tro i mewn i'r cymysgedd.
5. Ychwanegwch y blawd a'i gymysgu nes ei fod yn esmwyth. Dylai'r cymysgedd gorffenedig ddisgyn oddi ar lwy yn hawdd.
6. Rhannwch y cymysgedd yn gyfartal rhwng y tuniau. Ewch dros y cymysgedd gyda chyllell i'w wneud yn esmwyth.
7. Rhowch y cacennau ar silff ganol y popty a'u coginio am 20 - 25 munud. Gwiriwch ar ôl 20 munud. Bydd y cacennau'n barod pan yn liw brown golau ac yn dod i ffwrdd rhyw fymryn o ymyl y tuniau.
8.Gadewch y cacennau yn y tuniau i oeri am 5 munud, yna trowch y cacennau allan yn ofalus ar rac oeri.
Dull i wneud llenwad i'r gacen
- 1. Mewn powlen gymysgu, ychwanegwch y menyn, hanner y siwgr eisin a'r fanila a'i gymysgu.
- 2.Ychwanegwch yr hyn sy'n weddill o'r siwgr eisin i'r cymysgedd a'i gymysgu'n dda.
Rhoi'r gacen at ei gilydd
(Gwnewch yn siŵr fod y cacennau wedi oeri yn llwyr cyn eu gosod at ei gilydd)
- 1.Os nad ydi'r cacennau yn wastad, defnyddiwch gyllell fara i dorri haen o'u top.
- 2.Rhowch un o'r cacennau ar sgwâr o bapur gwrthsaim a rhowch haen denau o'r hufen menyn arni. Rhowch haen denau o jam ar y gacen arall a throi ar i fyny a'i gosod ar ben yr haen isaf o'r gacen.
- 3.Gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau iawn o hufen menyn (bydd hyn yn selio'r gacen ac yn ei gwneud yn barod i'w haddurno). Gyda chyllell baled crafwch unrhyw hufen menyn sydd dros y gacen.
- 4.Rhowch y gacen yn yr oergell am hanner awr.
Byddwch angen:
Bwrdd cacen (Cake board) 25cm/10 neu 28cm/11 modfedd
500g o eisin glas yn barod i'w rolio
250g o eisin gwyrdd yn barod i'w rolio
100g o eisin gwyn yn barod i'w rolio
75g o eisin coch yn barod i'w rolio
50g o eisin oren yn barod i'w rolio
50g o eisin melyn yn barod i'w rolio
25g o eisin du yn barod i'w rolio
Blawd corn (corn flour)
Pin rholio (yn ddelfrydol un non-stick)
- 1. Dechreuwch drwy orchuddio eich bwrdd cacen gyda'r eisin gwyrdd. Rhowch ychydig bach o ddŵr ar fwrdd y gacen a rhowch i'r naill ochr.
- 2. Gwasgarwch ychydig o flawd corn ar eich bwrdd gwaith a rhowch yr eisin gwyrdd yn ei ganol. Rholiwch yr eisin, a rhwng bob rôl trowch yr eisin fel nad yw'n glynu i'r bwrdd. Rholiwch haen denau oddeutu 4-5mm o drwch.
- 3. I godi'r eisin gwyrdd i fwrdd y gacen, rhowch eich pin rholio yng nghanol yr eisin a thynnwch hanner yr eisin drosto. Defnyddiwch y pin rholio i godi'r eisin o'r bwrdd gwaith a'i roi ar y bwrdd cacen.
- 4. Defnyddiwch cledr eich llaw i wneud yr eisin yn esmwyth ar y bwrdd. Defyddiwch gyllell i dorri'r eisin sydd dros ben. Rhowch y bwrdd cacen i'r naill ochr.
- 5. I orchuddio'r gacen gyda eisin glas, gwnewch gam 2 eto, gan rolio'r eisin yn esmwyth i haen oddeutu 8mm – 1cm o drwch.
- 6. I godi'r eisin i ben y gacen, gwnewch gam 3 eto.
- 7. Defnyddiwch cledr eich llaw i weud yr eisin yn esmwyth ar dop y gacen. Yna i siapio'r eisin i ochr y gacen defnyddiwch eich dwy law i dynnu'r eisin yn ofalus. Dylai'r gacen edrych fel het ar y bwrdd gwaith.
- 8. Defnyddiwch olwyn btsa neu gyllell i dorri'r eisin sydd dros ben o waelod y gacen.
- 9. Gyda chyllell gwasgarwch ychydig o hufen menyn yng nghanol bwrdd y gacen. Codwch y gacen oddi ar y papur gwrthsaim a'i gosod a'r fwrdd y gacen. Os ydych chi eisiau ysgrifennu neges ar fwrdd y gacen, rhowch y gacen tuag at gefn y bwrdd gan adael digon o le ar gyfer eich neges.
- 10. Argraffwch lun o Cyw sydd i'w gael yma a torrwch o'i amgylch. Gallwch ddefnyddio hwn fel templed i dorri siap Cyw allan o'r eisin.
- 11. Rholiwch eisin gwyn nes ei fod oddeutu 5mm o drwch. Rhowch y llun o Cyw yng nghanol yr eisin a thorrwch o gwmpas y siap gyda chyllell. Rhowch ychydig o ddŵr ar gefn y siap a'i osod ar ben y gacen.
- 12. Torrwch y darnau coch o'r templed papur. Rholiwch yr eisin coch nes ei fod oddeutu 5mm o drwch. Rhowch y darnau papur yng nghanol yr eisin a thorrwch o gwmpas y siap gyda chyllell. Rhowch ychydig o ddŵr ar gefn bob siap a'i osod ar ben siap Cyw ar dop y gacen.
- 13. Gwnewch gam 12 eto gyda'r darnau melyn, oren a du o Cyw a'r eisin.
- 14. I orffen y llygaid, rholiwch dwy bêl fach o eisin gwyn a'u glynu i'r llygaid du gyda ychydig o ddŵr.
- 15. Gyda'r eisin oren, gwnewch gam 14 eto a rholio 10 pêl fach oren a'i glynu o dan y ddwy lygad.
- 16. Ar gyfer coesau a thraed Cyw, gwnewch gam 14 eto a rholio 2 goes oddeutu 2cm a 6 pêl ar gyfer y traed.