S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cystadleuaeth Ffrindiau Gorau

Rheolau Cystadleuaeth Ffrindiau Gorau

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.

3. I gystadlu mae rhaid ebostio llun at cyw@s4c.cymru neu bostio i RHADBOST CYW.

4. Dewisir tri enillydd gan y criw cynhyrchu o blith yr enwau sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.

5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

6. Cyhoeddir enw'r enillwyr ar Awr Fawr y 13ed o Chwefror, 2019. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd.

7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 6ed o Chwefror. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

9. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.

10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.

11. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

12. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Thîm Cynhyrchu Cyw, Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.

13. Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad i ddangos y lluniau hyn ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatad yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?