S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 1: 'a' Anrheg Arall i Plwmp

Mae'n ben-blwydd ar Plwmp heddiw. Mae wedi derbyn anrheg anarferol, allwedd! Rhaid i'r criw ddarganfod beth mae'r allwedd yn ei agor er mwyn dod o hyd i'r anrheg.

Yn ystod y rhaglen hon cyflwynir y gêm 'Dwi'n gweld gyda'm llygaid bach,' – gêm sy'n datblygu ystod o sgiliau ieithyddol.

  • Llafar

Cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau' [Meithrin]

Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol.' [Meithrin] .

Defnyddio geirfa gynyddol ac addas o fewn a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae' [Derbyn]

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

  • Darllen

Cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

  • Ysgrifennu

Ysgrifennu llythrennau ar hap [Meithrin]

Copio ac ysgrifennu llythrennau [Derbyn]

Adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?