S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 2: 'b' Bolgi a’r Briwsion Bara

Mae Bolgi'n dipyn o gogydd a newydd orffen pobi bara ffres, ond yn anffodus, wrth i'r bara oeri ar y bwrdd yn yr ardd, cipiodd rhywun neu rywbeth hanner y dorth. Tybed all y criw ddod o hyd i bwy aeth a'r bara a pham?

Canolbwyntir ar y lythyren 'b' mewn cyd destun llythyren gynta'r gair yn ystod y rhaglen hon. Trwy gyfeirio ati fel llythyren syth gyda bol crwn a chefn syth, bydd hyn o gymorth i'r plentyn wahaniaethu rhwng llythrennau tebyg e.e. 'p' a 'd'.

Llafar

Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol.' [Meithrin] .

Clywed a gwahaniaethu rhwng synau cyffredinol, synau llafar a synau yn yr amgylchedd [ Meithrin]

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Gwahaniaethu rhwng llythrennau mewn ystod o gyd-destunau [Derbyn]

Ysgrifennu

Adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]

Gwahaniaethu rhwng llythrennau [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?