S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 4: 'ch' ​Chwilio a Chwyrnu

Chwilio a Chwyrnu

Mae Cyw, Plwmp a Deryn yn poeni – mae Llew ar goll. Mi ddiflannodd wrth iddyn nhw wneud pob math o chwaraeon difyr ar y traeth. I ble'r aeth e ? A all Jen a Jim ddatrys y dirgelwch?

Yn ystod y rhaglen hon, cyflwynir y llythyren ddwbl 'ch'. Cyfeirir at y ddwy lythyren yn unigol ond yna gwelwn eu bod yn creu llythyren 'arbennig' pan y dont at ei gilydd. Cymharir sŵn y lythyren 'ch' i dractor yn sownd yn y llwnc!

Llafar

Siarad yn glywadwy [ Derbyn]

Darllen

Adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau mewn lluniau,siapiau, patrymau a gweadau [ Meithrin]

Gwahaniaethu rhwng llythrennau mewn ystod o gyd-destunau [Derbyn]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?