S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 5: 'd' Dewi'r Deinosor

Cyfeiriad at dymor yr Hydref ac anifeiliaid yn gaeaf gysgu

Ar ôl clywed synau rhyfedd a gweld olion traed mawr yn yr ardd, mae Cyw, Plwmp a Deryn yn credu bod deinosor wedi bod yno. Mae ganddyn nhw ddigon o gliwiau i ddangos Jen a Jim, ond does dim golwg o'r dinosor!

Cawn ein cyflwyno nid yn unig i siap llythyren fach 'd' yn ystod y rhaglen hon, ond hefyd i'r brif lythyren 'D' a gwneir hynny o fewn cyd destun bod llythrennau cyntaf geiriau ar goll. Tynnir sylw er bod y ddwy lythyren yn siap gwahanol, mai'r un sŵn maent yn eu gwneud.

Llafar

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [Derbyn]

Darllen

Dechrau gwneud cysylltiadau â'u profiadau eu hunain wrth wrando ar lyfrau/testunau neu wrth edrych arnynt [Meithrin]

Adnabod gwybodaeth o destun gan ddefnyddio nodweddion gweledol a geiriau [ Derbyn]

Defnyddio lluniau i'w helpu o ddadelfennu geiriau a deal y testun [ Derbyn]

Ysgrifennu

Gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?