S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ap Newydd Byd Cyw

Mae Cyw wedi lansio ap newydd lliwgar a dyfeisgar, gyda hwyl, gemau, straeon a chaneuon a fydd yn difyrru plant bach am oriau.

Sêr yr ap yw'r cymeriadau bach hoffus sydd wrth galon gwasanaeth Cyw; sef Llew, Bolgi, Jangl, Deryn, Plwmp a Cyw ei hun, wrth gwrs.

Byd lliwgar Cyw yw canolbwynt yr ap ac mae'n cynnwys nifer o feysydd chwarae gwahanol ble mae modd chwilota a chwarae yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau. Ym mhob maes chwarae mae gweithgaredd arbennig sy'n caniatáu i blant dyfu blodau, llysiau a ffrwythau yng ngardd Cyw, bwydo Bolgi gyda chynnyrch o'r ardd, trefnu blodau a chwarae pêl gyda Llew a chanu a gwrando ar stori amser gwely gyda Cyw.

Gyda phob gweithgaredd, mae'r plant yn derbyn gwobrau ac yn datgloi nodweddion ychwanegol. Bydd llawer rhagor o weithgareddau, a meysydd chwarae newydd, yn cael eu hychwanegu tamaid ar y tro yn ystod y flwyddyn gan ddatgelu rhagor o ryfeddodau Byd Cyw.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Cyfarwyddwr Cynnwys Plant S4C, "Mae pob gweithgaredd sydd ar yr ap yn annog plant i chwarae a dysgu. Mae'n addas ar gyfer plant sy'n rhugl neu ddim mor hyderus yn y Gymraeg, gan ddysgu ac elwa o fwynhad byd Cyw yn yr iaith. Mae'r ap yn rhyngweithiol ac yn rhoi adborth sydd yn annog y plentyn i chwilio a thrio pethau newydd. Mae S4C wedi datblygu nifer o apiau dros y blynyddoedd, ond mae'r un yma ymhlith y mwyaf arloesol a chyffrous ers lansio'r gwasanaeth yn 2008."

iOS: https://itunes.apple.com/gb/app/byd-cyw/id12085359..

Android: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.thud.bydcyw&hl=en

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?