S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 6: 'e' Yr Enfys Goll

Mae'n ddiwrnod o fynd a dod heddiw yng ngardd Cyw. Mae'r eryr wedi galw draw gyda cherdyn post gan Ela'r eliffant ond wrth i'r criw ei ddarllen, diflannodd yr Enfys. Oes rhywun neu rywbeth wedi mynd a hi?

Rhaglen yn canolbwyntio ar gyfwlyno llythyren fach 'e' a phrif lythyren 'e' a geir yma ac eir ati trwy gyfrwng cân i egluro pryd y defnyddir y gwahanol ffurfiau – E fawr ar gyfer enw, person neu le ac e fach am bethau o gwmpas y lle. Yn wahanol i nifer o'r rhaglenni eraill, gwelwn y dull o ffurfio'r ddwy lythyren. Fel modd o helpu'r plentyn i ynganu'r lythyren yn gywir – cânt eu hatgoffa fod seinio 'e' yn gwneud iddynt wenu!

Llafar

Cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau' [Meithrin]

Siarad yn glywadwy [ Derbyn]

Darllen

Gwahaniaethu rhwng llythrennau mewn ystod o gyd-destunau [Derbyn]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Ysgrifennu

Gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?