S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 10: 'h' Het, Hances a Hosan

Taith i begwn y gogledd ar drywydd het, hances ac hosan coll Jangl sy'n wynebu Jen a Jim heddiw. Mae'r ddau'n edrych ymlaen yn arw i dreulio amser yn yr eira!

Cyflwynir ystod o wrthrychau sy'n cychwyn gyda'r lythyren 'h' yn ystod y rhaglen hon – hosan, hances, hopian. Yn ystod un o'r ffilmiau, gwelwn y plant yn didoli dillad gan ddibynnu'n llwyr ar eu clust yn hytrach na'u llygaid i benderfynu os yw'r dilledyn yn cychwyn gyda 'h' a'i peidio. – dyma gam pwysig yn natblygiad iaith plentyn.

Llafar

Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion [Meithrin]

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

Cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?