S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 8: 'ff' Y Fflamingo Coll

Y Fflamingo Coll

Mae Cyw a Llew wedi cael gwahoddiad gan eu ffrind y Fflamingo ond yn anffodus, allan nhw ddim gwneud pen na chynffon ohoni! Tybed all Jen a Jim eu helpu

Yn ystod y rhaglen, cawn ein cyflwyno i wahanol ffurfiau o ysgrifennu – poster a gwahoddiad. Cyflwynir y term llythyren ddwbl i'r gwrandawr a chaiff Jen a Jim lawer o hwyl yn ynganu'r lythyren 'ff' trwy esgus bod yn gwningod! Dyma ffordd wych – trwy roi 'r dannedd dros y wefus - i seinio'r lythyren yn gywir ac hefyd i wahaniaethu rhwng llythrennau cyffelyb e.e.th.

Llafar

neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

siarad yn glywadwy [ Derbyn]

Darllen

dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Ysgrifennu

defnyddio'r gytsain gychwynol gywir drwy ddechrau defnyddio gwybodaeth ffonig [ Derbyn]

dangos dealltwriaeth o wahanol ffurfiau, e.e. cardiau, rhestri, gwahoddiadau [Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?