S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 9: 'g' Gliter a Glud

Gliter a Glud

Mae 'na lanast a hanner yng nghegin Cyw heddiw, mae gliter glud a phaent ymhobman! Pwy sy'n gyfrifol am yr annibendod?

Chwilio am aderyn sydd yn cychwyn gyda'r llythyren 'g' yw tasg Jen a Jim yn y rhaglen hon. Rhaid troi felly at lyfr arbennig Jim – llyfr gwybodaeth. O ganlyniad gwelwn fod ystod o wahanol fathau o lyfrau ar gael – llyfr lliwio, llyfr sticeri, llyfr gwybodaeth yn ogystal â llyfr stori.

Llafar

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

Dechrau gwneud cysylltiadau â'u profiadau eu hunain wrth wrando ar lyfrau/testunau neu wrth edrych arnynt [Meithrin]

Adnabod gwybodaeth o destun gan ddefnyddio nodweddion gweledol a geiriau [ Derbyn]

Defnyddio lluniau i'w helpu o ddadelfennu geiriau a deall y testun [ Derbyn]

Dangos ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng storïau a thestunau gwybodaeth [Derbyn]

Dangos diddordeb mewn llyfrau a deunyddiau darllen eraill ac ymateb i'w cynnwys [Derbyn]

Ysgrifennu

Adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]

Defnyddio'r gytsain gychwynol gywir drwy ddechrau defnyddio gwybodaeth ffonig [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?