S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 13: 'l' Y Lindys a'r Letys

Mae lleidr wedi cyrraedd y fferm, ond yr unig beth mae'n ei ddwyn yw letys! Tybed pam? Mae'r criw'n penderfynu aros yn effro drwy'r nos i weld os oes modd dal y lleidr wrth ei waith!

Yn ystod y rhaglen hon, defnyddir llyfr gwybodaeth i ganfod gwybodaeth am wahanol fathau o greaduriaid e.e. pili pala. Dyma ffordd naturiol iawn o ddangos gwahanol swyddogaethau sydd yn perthyn i lyfrau. Cyfeirir at y lythyren 'l' fel llinell hir syth – bydd hyn o gymorth i'r plentyn 'weld' y lythyren wrth ei ffurfio.

Llafar

Cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau [Meithrin]

Siarad yn glywadwy [ Derbyn]

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

Dechrau gwneud cysylltiadau â'u profiadau eu hunain wrth wrando ar lyfrau/testunau neu wrth edrych arnynt [Meithrin]

Adnabod gwybodaeth o destun gan ddefnyddio nodweddion gweledol a geiriau [ Derbyn]

Dangos diddordeb mewn llyfrau a deunyddiau darllen eraill ac ymateb i'w cynnwys [Derbyn]

Dangos ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng storïau a thestunau gwybodaeth [Derbyn]

Ysgrifennu

Gwahaniaethu rhwng llythrennau [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?