S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Croeso Elin, cyflwynydd newydd Cyw!

Mae mis Awst yn ei anterth, ac mewn rhai wythnosau fe fydd nifer o blant bach yn dymuno y byddai'n haf o hyd. Er nad yw hyd yn oed Cyw yn medru addo tywydd yr haf o hyd, fe fydd yna haf o fath gwahanol ar Cyw bob bore o Fedi ymlaen, sef y cyflwynydd newydd, Elin Haf.

Bydd Elin Haf yn sicr o ddod â'r heulwen i'r sgrin bob bore, gan ei bod yn gwireddu breuddwyd gyda'i swydd newydd. Meddai Elin, "Dwi wedi dyheu i fod yn gyflwynydd plant ers pan oeddwn i'n ddim o beth - o'n i'n joio pob eiliad o Slot Meithrin a Planed Plant! Dwi eisiau gwneud yn siŵr bod plant Cymru yn cael yr un profiadau a sbort ag y ces i flynyddoedd yn ôl wrth wylio'r teledu."

"O'n i wedi cyffroi'n lân pan glywes i fy mod i wedi cael y swydd cyflwyno! O'dd hi'n anodd iawn cadw'r gyfrinach ar y dechrau gan fy mod i'n gweithio ar raglenni Stwnsh - sydd yn yr un swyddfa â Cyw! Ond fe wnes i ddweud y newyddion wrth Mam, Dad a fy nghariad - a Mam-gu wrth gwrs"

"Dwi'n berson bywiog a hapus, a gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu ar y sgrin - dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda Huw, ac at gyfarfod plant Cymru a thu hwnt yn ystod digwyddiadau'r flwyddyn a Thaith Nadolig Cyw."

Fe fydd Elin ar Cyw bob dydd o 6.00 y bore o 4 Medi ymlaen.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?