S4C
Dewisiadau

Cynnwys

​Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr Awr Fawr

Mae cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr wedi cau erbyn hyn, a mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r enillwyr ar y 16eg o Fawrth, pob lwc!

Gall lluniau sy' wedi eu hanfon aton ni ymddangos ar wefan a rhaglen deledu Cyw, unwaith derbynir ganiatad gan rieni neu warcheidwad.

Am fwy o wybodaeth am gynllun Bardd Plant Cymru, cliciwch yma!

    ...

Rheolau

Rheolau Cystadleuaeth

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod yn oedran cynradd i gystadlu.

3. I gystadlu mae rhaid ebostio llun at cyw@s4c.cymru

4. Dewisir tri enillydd gan y criw cynhyrchu o blith yr enwau unigol sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau, ac un enillydd gan y criw cynhyrchuallan o'r dosbarthiadau ysgol sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.

5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

6. Cyhoeddir enw'r enillwyr ar Awr Fawr y 16eg oFawrth, 2018. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd.

7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner nos ar y 9fed o Fawrth.

8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

9. Yr wobr fydd pentwr o lyfyrau Cymraeg i'r enillwyr unigol a wobr i'r dobarth fydd gweithdy gan Casia Wiliams, Bardd Plant Cymru. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

10. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.

11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.

12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Morris yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.

14. Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad i ddangos y lluniau hyn ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion i sicrhau bod yr holl unigolion sy'n ymddangos yn y llun wedi arwyddo polisi cyfryngau cymdeithasol a darlledu yr ysgol. Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatad yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?