S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Pwy fydd y Deian a'r Loli newydd?

Ymgyrch i ail gastio cymeriadau mwyaf poblogaidd Cyw

Bydd plant drwy Gymru benbaladr yn falch iawn o glywed bod dwy gyfres arall o Deian a Loli ar y gweill - gan fod S4C newydd gadarnhau eu bod yn comisiynu 26 pennod arall o'r ddrama deledu boblogaidd.

Cwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon sy'n gyfrifol am y gyfres, a gipiodd y wobr am y Rhaglen Blant Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae Angharad Elen, cynhyrchydd y gyfres, wrth ei bodd gyda'r newyddion da, ond yn cydnabod y bydd hi'n her, yn bennaf am fod y penderfyniad wedi ei gymryd i ail gastio. "Does dim gwadu fod Erin Gwilym a Moi Hallam, fu'n portreadu Deian a Loli dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gwneud gwaith rhagorol. Mae'r ddau yn actorion naturiol ac yn llawn asbri a brwdfrydedd. Petai gennym ddewis, fydden ni ddim wedi newid dim byd, ond yn anffodus i ni, fedrwn ni ddim atal Erin a Moi rhag tyfu i fyny! Mae'n bwysig fod Deian a Loli yn aros yn ifanc am byth, ac felly rydan ni ar fin dechrau ar y gwaith cyffrous o chwilio am ddau o blant i lenwi eu 'sgidiau. Dyma ddechrau pennod newydd yn hanes Deian a Loli."

Mae Cwmni Da yn chwilio am blant fydd rhwng 9-11 oed ar Fehefin 1af eleni, i actio rhannau Deian a Loli yn y gyfres nesaf. Bydd y ffilmio yn dechrau yn yr haf eleni yn ardal Caernarfon, ac yn ôl Angharad, "Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o actio. Yr unig beth sy'n hanfodol ydi dipyn bach o hyder, ac yn bwysicach na dim - synnwyr o hwyl a sbri. Rhowch gynnig arni!"

Nid Deian a Loli yn unig fydd yn newid gan y bydd y gyfres yn ei hanfod yn cael gweddnewidiad. Bydd yr efeilliaid newydd yn byw mewn cartref gwahanol, a chanddynt rieni gwahanol hefyd. Ond bydd yr efeilliaid yn meddu ar yr un pwerau, a'r un ysfa wyllt am antur! Dywed Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, "'Da ni'n ddiolchgar ofnadwy i Erin a Moi am eu perfformiadau ardderchog a'u brwdfrydedd heintus fel y Deian a Loli gwreiddiol. Mae emosiynau yn gymysg i gyd wrth i ni ffarwelio â nhw a pharatoi i chwilio am actorion newydd. Ond bwriad y newidiadau yma yw sicrhau fod y gyfres yn parhau i gydio yn nychymyg, a direidi plant Cymru am y blynyddoedd i ddod."

Er mwyn mynegi diddordeb, gofynnir i rieni gysylltu â deianaloli@cwmnida.tv erbyn dydd Gwener 16eg o Fawrth. Bydd y tîm cynhyrchu yn cysylltu yn uniongyrchol gyda phob ymgeisydd yn dilyn y dyddiad cau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?