S4C
Dewisiadau

Cynnwys

​Cystadleuaeth Cacen Ben-blwydd

I ddathlu Pen-blwydd Cyw yn 10 oed, mae cyfle i ennill pecyn Cyw! I gystadlu, anfona lun o dy gacen ben-blwydd i cyw@s4c.cymru cyn hanner dydd, y 4ydd o Fehefin a bydd y tri enillydd yn cael eu cyhoeddi ar Awr Fawr, yr 8fed o Fehefin.

Rheolau'r gystadleuaeth

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.

3. I gystadlu mae rhaid ebostio llun at cyw@s4c.cymru neu anfon llun drwy wefan Cyw.

4. Dewisir tri enillydd gan y criw cynhyrchu o blith yr enwau sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.

5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

6. Cyhoeddir enw'r enillwyr ar Awr Fawr yr 8fed o Fehefin, 2018. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd.

7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 4ydd o Fehefin.

8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

9. Yr wobr fydd pecyn Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

10. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.

11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.

12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Morris yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.

14. Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad i ddangos y lluniau hyn ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion i sicrhau bod yr holl unigolion sy'n ymddangos yn y llun wedi arwyddo polisi cyfryngau cymdeithasol a darlledu yr ysgol. Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatad yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?