S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cyw yn dathlu 10 gyda chyfres animeiddio

Sêr cyfres Cyw a'i Ffrindiau yw'r cymeriadau bach hoffus sydd wrth galon gwasanaeth Cyw; sef Bolgi, Llew, Jangl, Plwmp, Deryn a Cyw ei hun, wrth gwrs. Ac erbyn hyn mae ffrind newydd wedi ymuno â'r criw – ci bach tair coes o'r enw Triog.

Byd lliwgar Cyw yw canolbwynt y gyfres sy'n gynhyrchiad Boom Plant a Cloth Cat, a bydd bob pennod yn gweld Cyw a'i ffrindiau'n gwneud pob math o bethau – o drefnu parti pen-blwydd i fynd ar antur o dan y môr i greu rhywbeth arbennig iawn i'w hedfan yn y gwynt.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, "Mae plant wedi cael eu swyno gan Cyw, a'i ffrindiau, ers 2008. Felly mae'n fendigedig eu gweld nhw a'r byd llawn hwyl mewn cyfres eu hunain lle bydd cyfle i ddod i'w hadnabod nhw'n well.

"Gyda chymeriadau annwyl, delweddau hyfryd a straeon difyr, bydd y gyfres yn siŵr o fod yn ffefryn newydd i wylwyr ifanc."

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu i ddathlu degawd o Cyw eleni gan gynnwys parti pen-blwydd arbennig yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd ar ddydd Llun, 28 Mai. Yn ogystal, bydd criw Cyw a'i ffrindiau a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru yn perfformio detholiad o ganeuon i blant a hwiangerddi fel rhan o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018.

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Cyw am ragor o newyddion am y dathliadau pen-blwydd.

Cynhyrchiad Boom Plant a Cloth Cat ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?