1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, grwpiau a dosbarthiadau.
3. I gystadlu mae rhaid ebostio rhigwm gwreiddiol dim mwy nag 8 llinell am Fyd Cyw i cyw@s4c.cymru. Y Cwmni bydd yn berchen ar hawlfraint y rhigwm
4. Dewisir un enillydd sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.
5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
6. Cyhoeddir yr enillydd ar Awr Fawr ar y 13eg o Fawrth, 2020.
7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 21ain o Chwefror.
8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
9. Bydd y rhigwm buddugol yn cael ei animeiddio gan y tîm cynhyrchu bydd yn cael ei ddarlledu ar Awr Fawr ar y 13 o Fawrth 2020. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
10. Nid yw'r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.
11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.
12. Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio'r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a'i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â'r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
13. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
14. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Wyn Morris yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.