1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, dosbarthiadau ac ysgolion cyfan.
3. I gystadlu mae rhaid i unigoion ebostio llun ohonynt wedi gwisgo fyny fel cymeriad o lyfr i cyw@s4c.cymru. Mae rhaid i ddosbarthiadau ac ysgolion anfon llun o'r plant i gyd wedi gwisgo i fyny.
4. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
5. Cyhoeddir yr enillydd ar yr Awr Fawr ar yr 20ed o Fawrth, 2020.
6. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 9fed o Fawrth.
7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
8. Bydd y tri unigolyn buddugol yn derbyn pecyn o lyfrau Cymraeg. Bydd y dosbarth neu ysgol fuddugol yn derbyn ymweliad gan Fardd Plant Cymru. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
9. Nid yw'r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.
10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.
11. Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio'r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a'i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â'r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.