S4C
Dewisiadau

Cynnwys

​Dewch draw i S4C ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint i fwynhau Sioe Cyw!

Bydd cymeriadau poblogaidd Ben Dant a Dona Direidi ynghyd â chyflwynwyr Cyw – Catrin a Huw yn rhan o'r sioe arbennig hon. Bydd y sioe ymlaen bob diwrnod yn S4C ar amseroedd gwahanol yn ystod y dydd.

Bydd angen tocyn i weld y sioe, ond ni fydd angen talu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu'r tocynnau o stondin S4C ar y diwrnod.

Os na fyddwch yn llwyddo i gael tocyn, does dim angen poeni. Mae yna ffyrdd eraill o weld Cyw..

Bydd Cyw a'i ffrindiau yn canu a dawnsio bob dydd ar lwyfan allanol adeilad S4C. Bydd yr amserlen yma yn newid yn ddyddiol, felly dewch i nôl copi o'n hamserlen o adeilad S4C.

Bydd hefyd sioe arbennig iawn 'Canu gyda Cyw a'i ffrindiau' draw yn Neuadd Gorawl y maes ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn unig yn cychwyn am 12.30. Does dim angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Hyn a hyn o le sydd ym mhrif theatr adeilad S4C, a'r flaenoriaeth yn amlwg yw trio sicrhau bod cymaint o blant â phosib yn dod ac yn medru mwynhau'r sioe. Byddem yn gwerthfawrogi felly petaech chi'n gofalu sawl tocyn rydych chi'n ei archebu ar gyfer oedolion.

Welwn ni chi yno!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?