S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cyfres ddrama gomedi ramantus newydd

Pentref tawel ar lan y môr yn Sir Benfro yw Tretarw. Pentref â golygfeydd godidog, dan ei sang â da, a llond tafarn o ddynion sengl.

Mae Nancy, landledi Yr Angor, wedi cael llond bol ar y bois i gyd yn 'conan a bipsan' wrth y bar, felly mae'n dyfeisio cynllun direidus i geisio denu merched sengl i Dretarw…

Fydd cynllun Nancy'n llwyddo? Fydd Dai, Brian, Vic a'r gweddill yn dod o hyd i 'roces ffein'? Ac wrth i Nina, merch Nancy, ddychwelyd o Lundain gyda'i merch Lee, tybed a oes cyfle i gynnau tân ar hen aelwyd wedi'r holl flynyddoedd?

Byddwch yn barod am lot fawr o wherthin, bach o lefen a digon o snogo yn y gyfres gomedi ramantus newydd hon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?