S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Arfordir Cymru

Arfordir Llŷn yn agoriad llygad i hogyn o Fôn

Wedi iddo ymweld ag arfordiroedd Sir Fôn a Sir Benfro mewn cyfresi blaenorol ar S4C, bydd Bedwyr Rees yn teithio ar hyd darn arall o arfordir Cymru nos Sul, 15 Tachwedd yn rhaglen gynta'r gyfres newydd Arfordir Cymru: Llŷn.

Bydd y daith yn mynd â Bedwyr ar hyd y penrhyn i gyd– o Gaernarfon yn Arfon i Borthmadog yn Eifionydd. Ar hyd y ffordd, byddwn yn dysgu mwy am hanes hen a newydd y penrhyn a hynny ar dir, ar fôr ac o'r awyr, wrth i Bedwyr hel achau a hel straeon.

Er ei fod wedi cael ei eni a'i fagu nid nepell o'r penrhyn, ar Ynys Môn, ychydig iawn roedd Bedwyr yn ei wybod am Ben Llŷn cyn ffilmio'r gyfres - ond fe greodd y lle a'r trigolion argraff fawr arno.

"Mae hi'n rhyfeddol faint ti ddim yn gwybod am yr hyn sydd ar dy stepan drws dy hun," meddai Bedwyr, sy'n parhau i fyw ar Ynys Môn.

"Dwi'n dechrau pob cyfres drwy edrych ar fap ac yn dod i nabod y llefydd wrth fynd ymlaen. Ond be' wnaeth fy nharo fi am Ben Llŷn oedd y cyfranwyr arbennig gafon ni ymhob man a'r ffaith bod y Gymraeg yn parhau i ddal ei thir yno.

"Mae hyd yn oed y bobl ifanc yn llawn gwybodaeth leol ac mae'r etifeddiaeth lafar gwlad yn cael ei phasio 'mlaen o genhedlaeth i genhedlaeth."

Yn y rhaglen gyntaf, bydd Bedwyr yn pysgota am frithyll yn Afon Seiont ac yn mynd ar drywydd hanes enw pentref chwarelyddol Trefor. Ond yn ôl Bedwyr, roedd sawl uchafbwynt i'r daith.

"Mi fuon ni'n hwylio cwch sy'n agos at gant oed ac yn bragu cwrw yn null yr Oes Efydd yng nghwmni Myrddin ap Dafydd. A chyn hyn, do'n i erioed wedi ymweld ag Ynys Enlli o'r blaen. Ond mae'n siŵr gen i mai un o straeon mwyaf rhyfeddol yr holl ardal yw hanes Twll Dihangfa Siôn Twnti.

"Mae'n debyg bod yr hen Siôn yn dwyn ambell i ddafad, er mwyn bwydo'i deulu, ac yn mynd i guddio mewn ogof ger Mynydd y Graig pan oedd yr heddlu'n dod i chwilio amdano. Roedd hyd yn oed ein harweinydd ni'n dweud ei fod o'n cael trafferth dod o hyd i'r lle weithiau, ond ar ôl dwy neu dair awr, dyma ni'n dod o hyd iddi – ac roedd hynny'n gwneud i rywun deimlo fel anturiaethwr go iawn."

Hefyd yn ystod y gyfres bydd Bedwyr yn edrych ar agweddau mwy diwydiannol yr ardal – o'r chwareli llechi i'r diwydiant penwaig yn Nefyn. A bydd hefyd yn gofyn un o gwestiynau ieithyddol mawr Cymru – ai un 'c' ynteu dwy sydd i fod ynghanol yr enw Cricieth?

Mae un peth yn sicr, fe gafodd y darn yma o arfordir Cymru ddylanwad mawr ar Bedwyr.

"Wrth deithio o amgylch Pen Llŷn ti'n teimlo dy fod di'n troedio tir hynafol ofnadwy – fel petai pobl wedi dilyn yr un trywydd â chdi am ganrifoedd….ac roedd hynny cyn i mi gael fy swyno gan gynhesrwydd a diwylliant y bobl."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?