S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gardd Natalie a Richard

Iwan sy'n ychwanegu planhigion sy'n gweddu gyda chyfnod a chymeriad tŷ Natalie a Richard yn Rhiwbeina.

Delphiniums

Delphiniums

Mae delphiniums yn ffefryn ar gyfer nifer o arddwyr, ond yn gallu bod yn sialens.

Mae'n well ganddyn nhw haf gwlyb gan nad ydyn nhw'n gwneud yn dda mewn tymheredd poeth, sych.

Mae'r rhan fwyaf o delphiniums angen eu cefnogi.

Rhosmari

Rhosmari

Mae rhosmari yn lwyn sy'n tyfu i faint o tua 2m x 2m.

Mae ei ddail main yn wyrdd tywyll a'i flodau fel arfer yn fioled-las neu'n wyn.

Mae'n cychwyn blodeuo yn y Gwanwyn.

Lafant

Lafant

Fersiwn o'r lafant poblogaidd sydd wedi ei enwi ar ôl gardd Celf a Chrefft enwog y garddwr Laurence Johnston yn Hidcote, Caerloyw.

Mae'n cynhyrchu blodau fioled sydd ag arogl cryf yn ystod yr haf. Mae'n bosib mai hwn ydi'r lafant gorau ar gyfer ymyl llwybrau a borderi gan fod yr arogl yn codi wrth i chi gerdded yn ei erbyn.

Mae'n ffefryn ar gyfer gwenyn a phryfetach eraill sy'n hoffi neithdar.

Torrwch y coesau ar ôl i'r blodau farw.

Torrwch yn ôl yn ofalus ym mis Ebrill, gan wneud yn siŵr nad ydych chi'n torri i mewn i'r hen bren.

Stachys (Lamb's Ear)

Stachys

Mae'r Stachys yn gallu bod yn blanhigion blynyddol, rhai lluosflwydd neu yn lwyn.

Mae'r 'Silver Carpet' yn blanhigyn lluosflwydd sy'n tyfu i uchder o 20cm a'n cael ei blannu oherwydd ei ddail dwys sy'n creu gorchudd gwych.

Rhosyn y Mynydd

Rhosyn y Mynydd

Mae'r rhosyn mynydd parhaol yn wahanol i goeden rhosyn y mynydd gan eu bod nhw'n marw i lawr i lefel y tir pob Gaeaf.

Mae nifer yn meddwl bod rhosyn y mynydd yn anodd ei dyfu, ond gydag ychydig o ofal, maen nhw'n rhoi lliw a mwynhad am nifer o flynyddoedd

  • Plannwch mewn ardal heulog
  • Mae nifer yn hoff o bridd niwtral neu ychydig yn alcalïaidd.
  • Mae'n rhaid cael pridd sy'n draenio'n dda
  • Yn aml, tydi'r coesau ddim yn ddigon cryf i gadw'r blodau i fyny, felly bydd angen eu cefnogi.
  • Mae'n well torri'r planhigyn i lefel y tir fel y mae'n marw yn ôl yn yr Hydref.

Mantell Fair

Alchemilla Mollis

Dylai pob gardd gynnwys y planhigyn yma! Mae ganddo ddail llachar gwyrdd a'n cynhyrchu blodau bach melyn o fis Mehefin i fis Medi.

Mae'n edrych yn dda wedi ei blannu i orchuddio'r tir, neu fel ymyl ar gyfer llwybrau.

Torrwch y blodau marw yn ôl ym mis Awst ac yn aml fe wneith ail flodeuo.

Mintys y Gath

Catmint

Yn perthyn i'r Catnip, mae Catmint neu'r Nepeta yn blanhigyn hawdd i'w dyfu. Mae mathau gwahanol yn arddel gwahanol liwiau, o biws i binc i wyn, gyda deiliach llwyd/gwyrdd sy'n parhau i edrych yn dda trwy gydol y tymor tyfu.

Bergenia

Bergenia

Mae'r Bergenia yn blanhigyn gwerthfawr.

Mae nifer fawr ohonyn nhw yn blanhigion bytholwyrdd lluosflwydd.

Tydi'r Bergenia ddim angen llawer o sylw – a'n tyfu'n hapus yn y cysgod neu mewn man heulog os nad ydi'r pridd yn rhy sych.

Mae ei liw yn well mewn pridd sy'n llai ffrwythlon tra mae'r deiliach a'r blodau yn y gwanwyn yn well mewn amodau mwy cyfoethog.

Bysedd Y Cwn

Bysedd Y Cwn

Mae Bysedd y Cwn yn gallu bod yn blanhigion eilflwydd neu'n rhai lluosflwydd sy'n byw yn fyr. Mae'n ffurfio rhosenni o ddail syml gyda blodau hir siâp clychau.

Nicotiana

Nicotiana

Mae tyfu'r nicotiana mewn gwely blodau yn ychwanegu amrywiaeth o liw a ffurf. Mae'n berffaith fel planhigyn ar gyfer gwely blodau.

Mae'r blodau yn siâp tiwb sy'n tyfu reit sydyn a'n cynhyrchu arogl melys.

Oregano

Oregano

Mae'r origanum vulgare yn blanhigyn lluosflwydd bach gyda dail ag arogl cryf. Mae ganddo glwstwr o flodau bach pinc yn yr haf a'n fuan yn yr Hydref.

Cosmos Atrosanguineus

Cosmos Atrosanguineus

Mae'r cosmos astrosangiuneus yn blanhigyn oddfog gyda blodau lliw marwn sy'n arogli fel siocled.

Clematis Montana

Clematis Montana

Mae'r Clematis Montana yn tyfu'n egnïol a'n berffaith I dyfu trwy goed, ar hyd llwyni neu fyny ochr ty. Unrhyw le ble maen nhw'n cael cyfle I dyfu'n rhydd.

Mae'n nhw'n blodeuo rhwng Mai a Mehefin – ar gael mewn pinc a gwyn.

Erigeron

Erigeron

Mae'r planhigyn arbennig yma yn blodeuo am naw mis o'r flwyddyn a'n hunan hadu.

Mae ei werth yn anhygoel, dylai pob gardd gynnwys y planhigyn yma!

Mae gwreiddiau'r Erigeron yn ei wneud yn anhygoel ar gyfer waliau a llwybrau. Tynnwch y pennau marw i ffwrdd er mwyn hybu mwy o flodau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?