S4C
Dewisiadau

Cynnwys


Gardd Meinir

Meinir sy'n mynd ati i blannu planhigion mewn cornel sydd ddim yn derbyn llawer o haul yn ei gardd - yn enwedig yn y gaeaf. Felly pa bynnag fath o ardd sydd gennych chi a pha bynnag ffordd mae hi'n wynebu, mae 'na blanhigion allan yna i bawb.

Gwyddfid -

  • Lonicera periclymenum Belgica (ar y wal gysgodol)
  • Lonicera periclymenum 'Rhubarb and Custard' (ar y wal heulog)

Clematis -

  • Clematis Alpina 'Frankie' (ar y wal gysgodol)

Fuchsia -

  • Fuschia 'Lady Boothby' (ar y wal heulog)

Potiau -

  • Dianthus 'Mojito' : Mae'r dianthus yn ffefryn yn yr ardd ac yn hawdd i'w tyfu. Maen nhw'n hoff o gael eu plannu mewn pridd alcalïaidd sy'n draenio'n hawdd. Gosodwch mewn man heulog.
  • Nemesia 'Aromatica White Improved'
  • Lavandula angustifolia 'Hidcote' : Mae'r Lavandula yn lwyn fytholwyrdd gyda digon o arogl arno. Mae'r llwyn yn tyfu i uchder o 45cm. Mae'n blodeuo rhwng canol a diwedd yr haf.
  • Centaurea montana 'Purple Heart'
  • L. stoechas 'Lilac Wings' : Lafant Ffrengig gyda blodau crwn a phetalau ysgafn sydd fel adenydd pili-pala. Edrych yn wych mewn border heulog. Denu gwenyn a phryfetach eraill sy'n caru neithdar.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?