S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Picl Rhiwbob

Cynhwysion

  • 500ml finegr seidr
  • 300g siwgr
  • 1 1/2 llwy fwrdd halen
  • 1/2 llwy de o hadau mwstard melyn
  • 6 o beli pupur du
  • 3cm sinsir ffres, wedi ei blicio a'i sleisio'n denau
  • Zest 1 oren, wedi ei blicio efo pliciwr tatws
  • 450g rhiwbob ffres, wedi eu golchi a'u torri i ddarnau 2cm o hyd

Dull

  1. Mewn sosban, cyfunwch y finegr, siwgr, halen, hadau mwstard a'r pupur. Coginiwch dros wres isel a'i droi bob hyn a hyn nes bod y siwgr wedi toddi.
  2. Tynnwch oddi ar y gwres cyn ychwanegu'r sinsir a'r croen oren. Gadewch yr hylif i oeri.
  3. Rhannwch y gymysgedd rhiwbob rhwng 3 x 340g jariau gwydr. Rhowch gaead ar ben bob un a'i adael yn yr oergell am 2 ddiwrnod cyn ei fwyta.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?