S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Pice Nadolig

Cynhwysion

  • 250g Blawd codi
  • 125g Menyn
  • Pinsied o Halen
  • 75g Siwgwr
  • 100g Cnau Cyll
  • 100g Llugaeron wedi eu sychu
  • Croen 1 Oren
  • 1 Wy

I'w Gweini

  • Siwgr Eisin
  • Llugaeron ffres
  • Rhosmari

Dull

  1. Cymysgwch y blawd codi gyda'r menyn, halen, siwgr, cnau cyll, llugaeron a chroen 1 oren.
  2. Dewch a'r gymysgedd at ei gilydd a'i friwsioni.
  3. Curwch 1 wy a'i ychwanegu at y gymysgedd.
  4. Defnyddiwch ychydig o lefrith os nad ydi'r toes yn ffurfio.
  5. Rholiwch y toes i dewder pice a'u torri gyda thorrwr bisgedi.
  6. Gosodwch ar ridyll poeth a'u coginio ar bob ochr am 1 - 1 1/2 munud.
  7. I orffen, rhowch siwgr eisin ar eu pennau a'u gweini gyda llugaeron ffres a rhosmari.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?