S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cyw Iâr Gyda Stwffin Garlleg Gwyllt

Cynhwysion

1 Nionyn wedi'i dorri'n fân

Llond llaw o ddail danadl poethion

Llond llaw o ddail garlleg gwyllt

Halen

Pupur

Brest cyw iâr

Menyn

Blodau Garlleg Gwyllt mewn Cytew Tempura

1 Wy

100ml o ddŵr rhewllyd

100ml llaeth coconut

150g blawd

Saws soy

Olew

Blodau garlleg gwyllt

1. Toddwch fenyn mewn padell

2. Rhowch 1 nionyn wedi'i dorri'n fân yn y badell cyn ychwanegu llond llaw o ddail danadl poethion wedi'i torri yn y badell a'r dail garlleg gwyllt.

3. Torrwch 2 frest cyw iâr ar agor cyn ei orchuddio gydag ychydig o halen a phupur, ychwanegwch ychydig o'r stwffin tu mewn iddo.

4. Caewch y cyw iâr cyn ei ffrio yn y badell

5. Curwch wy mewn powlen cyn ychwanegu 100ml o ddŵr rhewllyd ato.

6. Ychwanegwch 100ml o laeth coconut cyn hidlo 150g o flawd i mewn i'r gymysgedd.

7. Rhowch ddafn neu ddau o saws soy i mewn i'r gymysgedd.

8. Rhowch digon o olew mewn padell lân cyn trochi pennau'r garlleg gwyllt yn y cytew tempura.

9. Rhowch y blodau garlleg yn yr olew unwaith iddo boethi.

10. Unwaith mae'r cyw iâr yn barod, tynnwch oddi ar y gwres a'i weini gyda'r hynny sy'n weddill o'r stwffin, y blodau garlleg gwyllt wedi'w ffrio yn y cytew tempura ac ychydig o flodau amrwd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?