S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rysáit fflapjacs crymbl afal, gellyg a phwmpen

Cynhwysion

Ar gyfer y fflapjacs

  • 400g ceirch mawr
  • 200g siwgr man euraidd
  • 200g menyn
  • 100g surop euraidd
  • 100g triog
  • 200g pwmpen wedi gratio

Ar gyfer y piwre

  • 2 afal coginio bramley
  • 3 gellygen
  • sudd 1/2 lemon
  • 800g pwmpen
  • 75g menyn

Ar gyfer yr haen crymbl

  • 200g blawd plaen
  • 150g menyn
  • 100g ceirch
  • 200g siwgr man euraidd
  • 150g pwmpen wedi gratio

Dull

  1. Ar ôl plicio'r bwmpen, a thynnu'r hadau - coginiwch hi mewn menyn tan mae hi'n feddal.
  2. Ychwanegwch yr afalau coginio, gellygen, sudd hanner lemon ac ychydig o ddŵr, a chreu piwre o'r holl gymysgedd.
  3. Wedyn - gwnewch y fflapjacs eu hunain - drwy doddi siwgr a menyn mewn sosban, ychwanegwch driog du a thriog melyn neu surop.
  4. Ychwanegwch geirch, a phwmpen wedi ei gratio.
  5. Rhoi'r gymysgedd mewn tun pobi, a thaenu'r piwre ar ei ben.
  6. Yna - cymysgwch menyn a blawd mewn prosesydd bwyd i greu crymbl, ychwanegwch y ceirch, siwgr a phwmpen wedi ei gratio, a'i wasgaru dros y piwre.
  7. Coginiwch ar 180 gradd am tua hanner awr.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?