S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Madarch a Stwnsh Ffa

Cynhwysion

  • 500g Ffa
  • 1/2 llwy de o olew olewydd
  • 1 nionyn bach wedi torri'n fân
  • 3 ewin garlleg wedi torri'n fân
  • Sudd 1 lemon
  • 50ml o extra-virgin olive oil
  • 25ml dŵr
  1. Coginiwch y ffa am 3 munud mewn dŵr berwedig.
  2. Draeniwch a'i rinsio mewn dŵr.
  3. Tynnwch y croen, dyma sy'n rhoi gwynt i chi medden nhw!
  4. Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr a'i coginio yn araf nes bod y nionyn yn feddal ond heb ei frownio.
  5. Ychwanegwch y garlleg a'i goginio am 3 munud arall.
  6. Ychwanegwch y ffa a'i cynhesu am 3 munud.
  7. Ychwanegwch halen a phupur.
  8. Arllwyswch gynhwysion y badell i brosesydd bwyd ac ychwanegwch sudd lemon, yr olew olewydd a'r dŵr.
  9. Blendiwch i ffurfio stwnsh.
  10. Ychwanegwch fintys a marjoram.
  11. Ychwanegwch mwy o'r sudd lemon neu'r olew olewydd os oes angen.

Ar gyfer y madarch, mae Iwan yn eu glanhau gyda brwsh i gael gwared ar unrhyw ddeiliach cyn eu ffrio gyda garlleg mewn menyn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?