S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Protest Brexit yn y Senedd

Gorymdeithiodd dros 100 o bobl ifanc o ganol Caerdydd i'r Senedd fel protest yn erbyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd.

Ar ddydd Iau pleidleisiodd 17,410,742 o bobl ar draws y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda dim ond pump sir yng Nghymru'n pleidleisio i aros. Ond mae poliau piniwn wedi awgrymu bod y mwyafrif o bobl ifanc wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ddydd Llun aeth llawer o bobl ifanc i'r Senedd i brotestio, nid yn unig yn erbyn y canlyniad, ond hefyd yn erbyn y ffaith nad oedd gan bobl dan 18 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio.

Yn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014 roedd gan bobl 16 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?