S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Deigryn India - 28.12.14

Fel 'deigryn India' caiff Sri Lanka ei hadnabod. Ac mae llawer o ddagrau wedi syrthio yma.

Cafodd trychineb y tsunami effaith drychinebus ar y wlad, oedd eisoes wedi dioddef blynyddoedd o ryfel cartref. Chwalodd y tonnau dri chwarter arfordir yr ynys gan ladd tri deg pum mil o bobl. Mae pum mil arall ar goll o hyd. Gollodd cannoedd ar filoedd aelodau o'u teuluoedd, eu cartrefi a'u bywoliaeth.

Roedd llawer yn gobeithio y byddai trasiedi naturiol o'r fath raddfa yn cau pen y mwdwl ar yr elyniaeth hanesyddol rhwng y Sinhalese a'r Tamils. Roedd dioddefaint pobol Sri Lanka yn waeth nag erioed.

Ond flwyddyn wedi'r tsunami, gwaethygu wnaeth yr ymladd ac arafu'r ymdrechion i ail adeiladu ac ail sefydlu cymunedau ac is-adeiledd y wlad. Gymrodd hi tan 2009 i'r gwrthdaro gwaedlyd ddod i ben.

Mae Sri Lanka wedi cael degawd anodd. Yn Colombo roeddwn i'n gallu teimlo newid - mae hen adeiladau crand cafodd eu hadeiladu yn ystod ymerodraeth Brydain yn cael eu cysgodi gan skyscrapers newydd. Er bod 'tuk tuks' swnllyd y ddinas i'w gweld ym mhob man, mae ceir newydd sbon yn cystadlu am le ar y priffyrdd.

Welais i fenywod y farchnad yn balansi basgedi o nwyddau ar eu pennau yn rhannu'r strydoedd prysur gyda dynion busnes banciau'r byd.


Nawr, mae heol newydd sbon yn rhedeg rhwng Colombo a de'r ynys. Mae twristiaid yn cael eu cludo o'r maes awyr i draethau euraidd arfordir y de lle mae dewis enfawr o westai.

Ond teithio ar yr hen hewl wnaethon ni. Ar y daith, gwelsom greigiau hen gartrefi yn chwilfriw ond yn ein hatgoffa o nerth y tonnau sgubodd drwy bentrefi a threfi gan ddinistrio popeth.

Ym mhentre Perilya, gollodd o leiaf mil dau gant o bobl eu bywydau ar dren odd yn teithio rhwng Colombo a Galle.

Yn fan hyn nes i gwrdd ag un dyn heb fawr o Saesneg a llai fyth o foethau bywyd - roedd ei ddillad darniog yn brawf o hynny. Roedd e'n feddw. Ddwedodd wrtha i fod ei deulu cyfan wedi cael eu lladd gan y tsunami.


Welais i'r dyn yn llusgo'i draed ymysg yr adfeilion yn yr haul crasboeth. Tybed ai dyma patrwm ei fywyd dros y ddegawd ddiwethaf?

Mae digonedd o bobl yn amlwg yn galaru o hyd yn Sri Lanka. Dyw e ddim yn syndod, roedd bron pawb wnes i gwrdd a nhw wedi dioddef colled neu roedd ganddyn nhw stori o oroesiad anhygoel i adrodd.

Mae llawer o adeiladau gyda llinelloedd mewn paent ar y walydd i ddangos pa mor uchel odd y tonnau. Mae beddau syml wedi eu rhesi ar hyd y lan. Ond, oni bai eich bod chi'n edrych, dim ond y pethau bychain yma sydd nawr yn eich hatgoffa o'r arswyd wynebodd yr ynys hon ddegawd yn ol. Heddiw, tra'n syllu ar ddwr crisialaidd y mor yn mwytho'r tywod euraidd mae'n amhosib dychmygu'r ofn a'r difrod wnaeth y mor achosi ar ddydd San Steffan 2004.

Serch hynny, dyw'r hanes erchyll heb rwystro twristiaid rhag ymweld a'r ynys.

Wrth i westai newydd blaguro ar hyd yr arfordir mae mwy a mwy o ymwelwyr yn heidio yma gan wneud twristiaeth yn un o'i phrif ffynonellau incwm. Mae mwyafrif pobl Sri Lanka y siaradais i a nhw yn dathlu hyn. Hyd yn oed mewn pentrefi pysgota bychain sydd wedi cael eu trawsnewid yn llwyr, mae'r trigolion yn croesawu'r mewnlif.

Yn fy marn i, mae pobol Sri Lanka yn haeddu clod am boblogrwydd yr ynys, eu croeso cynnes a'u hagwedd. Maen nhw wedi tystio poen a thrasiedi na allwn ni eu hamgyffred, ond maent yn bositif ac yn ddiolchar am yr hyn sydd gyda nhw. Os mai Thailand yw 'gwlad y gwen' mae ganddi gystadleuaeth gryf o du Sri Lanka lle mae poblogaeth sydd wedi ei chreithio ag erchylltra ond sy'n troi'r deigryn ar ei ben.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?